Ewch i’r prif gynnwys

Amaethyddiaeth a'r Economi Wledig yn destun trafodaeth yn y seminar Llywodraethu Ar ôl Brexit

17 Mehefin 2021

Mae’r seminar academaidd nesaf yn y gyfres gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd bellach yn hysbys, a bydd lle amlwg iawn i amaethyddiaeth a’r economi wledig.

Mae Brexit a Covid-19 wedi gweddnewid cyd-destun amaethyddiaeth yng Nghymru a’r DG, ac maen nhw wedi newid dynameg yr economi wledig hefyd. Yn y seminar hon, a gynhelir gan Raglen Llywodraethu Ar Ôl Brexit yr ESRC a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, bydd modd clywed am dri phrosiect ymchwil mawr a ariennir gan yr ESRC sy'n edrych yn fanwl ar agweddau gwahanol ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r sector amaethyddol a'r economi wledig.

Dyma a ddywedodd yr Athro Daniel Wincott, cynullydd y seminar:

“Mae amaethyddiaeth ac economïau gwledig ledled y DG yn wynebu newidiadau sylfaenol ar ôl Brexit. Ar ben hynny, mae pandemig Covid-19 wedi creu heriau dwfn ym myd amaethyddiaeth tra bod y sector wedi chwarae rôl allweddol wrth gynnal y cyflenwad bwyd drwy gydol yr amser. Yn y seminar hon, bydd ymchwilwyr blaenllaw yn cyflwyno ar y materion allweddol hyn."

Bydd y cyflwyniadau yn canolbwyntio ar dri phwnc. Yn gyntaf, yn sgîl pandemig Covid-19 cafwyd heriau ychwanegol o ran mudo tymhorol a diogelwch bwyd.  Gan dynnu ar brofiad eu prosiect 'Feed the Nation' dan arweiniad Dr Roxana Barbulescu, bydd Dr Bethany Robertson o Brifysgol Leeds a Dr Carlos Vargas-Silva o COMPAS ym Mhrifysgol Rhydychen yn dadansoddi'r materion hyn.

Bydd Dr Ruth Little a Dr Judith Tsouvalis-Gerber o Brifysgol Sheffield yn mynd ati wedyn i gyflwyno canfyddiadau eu prosiect 'Agri-Environmental Governance Post-Brexit', gan gynnwys astudiaeth fanwl o ddull newydd DEFRA o Reoli Tir Amgylcheddol.

Yn olaf, gan ddefnyddio canlyniadau ei brosiect ar 'English Champagne? Geographical Indications’, bydd yr Athro Stephen Roper o'r Enterprise Research Centre yn Ysgol Fusnes Warwick yn manylu ar y graddau y gellir defnyddio Dynodiadau Daearyddol o Darddleoedd fel ffordd o warchod a chryfhau treftadaeth bwyd a chefnogi twf cynhyrchwyr ac economïau gwledig.

Bydd y seminar ar-lein, a drefnir gan Ganolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd, yn cael ei chynnal rhwng 13.00 a 14.30 ar Orffennaf 2 2021, a gallwch chi gofrestru drwy ddefnyddio’r ddolen hon.

Rhannu’r stori hon