Casglu enwau ar gyfer ein Hacademi Gymraeg newydd
16 Mehefin 2021
Rhannwch eich awgrymiadau ar gyfer Academi Gymraeg Prifysgol Caerdydd.
Lansiwyd Strategaeth Gymraeg newydd Prifysgol Caerdydd, sy'n cynnig ffocws sefydliadol ar ddathlu, hyrwyddo a chysylltu â'r Gymraeg ar draws pob agwedd ar fywyd y Brifysgol, yn ddiweddar.
Mae'r strategaeth – o'r enw Yr Alwad/Embrace It – yn adeiladu ar fentrau, rhwydweithiau a gweithgareddau Cymraeg presennol, gan dynnu'r rhain at ei gilydd mewn agenda ddiwylliannol a chymunedol glir a diffiniedig.
Mae sefydlu Academi newydd yn allweddol i gyflawni uchelgeisiau’r strategaeth a’u rhoi ar waith. Dyma sefydliad ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n cysylltu’r rhai sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg – boed yn fyfyrwyr, yn staff neu’n rhanddeiliaid allanol. Eglura Dr Huw Williams, Deon yr Iaith Gymraeg: “Trwy greu’r endid ffurfiol hwn, ein bwriad yw creu a chefnogi rhwydwaith traws-sefydliadol yn seiliedig ar rannu arfer da, gweithio’n agosach gyda’n gilydd a gwneud ein profiad Cymraeg bob dydd y gorau y gall fod.
“Bydd hyn yn darparu sylfaen ar gyfer datblygu ein cymuned Gymraeg groesawgar, gynhwysol sy'n annog cyfranogiad, waeth beth yw eich gafael ar yr iaith. Yn benodol, rydym am sicrhau bod mwyafrif ein siaradwyr rhugl yn elwa ar rywfaint o'n darpariaeth, gan sicrhau hefyd bod y rhai nad ydynt yn rhugl neu nad ydynt yn siarad Cymraeg o gwbl yn mwynhau profiad cadarnhaol o'r iaith.
“Bydd yr Academi yn gweithio ar draws gwasanaethau addysgol, proffesiynol ac agweddau allgyrsiol yn y Brifysgol, gan adlewyrchu amcanion ehangach: sefydliad o Gymru sydd â golwg fyd-eang, mewn dinas gosmopolitaidd a chyfeillgar, amlieithog ac amlddiwylliannol.”
Anfonwch eich awgrymiadau at DeonyGymraeg@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Gwener 2 Gorffennaf. Bydd panel yn ystyried yr awgrymiadau sydd wedi dod i law cyn penderfynu ar yr enw terfynol, i'w gyhoeddi yn ddiweddarach yr haf hwn.