Myfyriwr MArch o Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn ennill Ysgoloriaeth Jonathan Spiers.
15 Mehefin 2021
Mae Lawrence Lynch, myfyriwr Meistr mewn Pensaernïaeth (MArch) o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, wedi ennill Ysgoloriaeth Jonathan Spiers.
Mae cronfa Ysgoloriaeth Jonathan Spiers yn elusen gofrestredig yn y DU sy'n rhoi cymorth i fyfyrwyr pensaernïaeth sydd am ymuno â'r proffesiwn dylunio goleuadau pensaernïol. Mae gwaith gradd israddedig Lawrence yn dangos ei angerdd clir dros farddoneg golau a ffurf. Ar ôl treulio peth amser yn gweithio i DaeWha Kang Design - cwmni sy'n arbenigo mewn lles a dyluniadau sy'n canolbwyntio ar fodau dynol, a chwmni sy'n cydweithio â dylunwyr goleuadau proffesiynol, llwyddodd i feithrin diddordeb brwd mewn effeithiau seicolegol golau. Roedd traethawd hir gradd Meistr Lawrence yn trin a thrafod sut mae estheteg bioffilig yn effeithio ar les emosiynol. Hoffai barhau â’r ymchwil hon yn y dyfodol gyda chefnogaeth yr ysgoloriaeth, gyda'r nod o lywio ei waith dylunio ei hun a helpu'r ddealltwriaeth gyffredinol o effeithiau emosiynol goleuadau ym maes pensaernïaeth.
Dywedodd tîm JSSF: "Rydym yn llongyfarch Lawrence ar fod yn rhan o deulu JSFF a hyderwn y bydd yr ysgoloriaethau'n ei helpu i orffen ei astudiaethau a mynd ymlaen i ddatblygu ymhellach fel pensaer a dylunydd goleuadau.
Dywedodd Lawrence:
"Rwyf bob amser wedi ymddiddori ym marddoneg golau a ffurf o fewn pensaernïaeth ac mae llawer o fy mhrosiectau wedi trin a thrafod y maes hwn drwy ddefnyddio modelau ffisegol. Mae gen i ddiddordeb hefyd yn effeithiau emosiynol goleuadau a sut y gellir cynllunio mannau i hyrwyddo lles. Canolbwyntiodd fy nhraethawd hir ar effaith estheteg bioffilig ar les emosiynol ac rwy’n gobeithio parhau i'w harchwilio gyda chefnogaeth yr ysgoloriaeth hon. Cefais fy synnu'n fawr pan glywais fy mod wedi ennill, a braint yw cael ysgoloriaeth mor fawreddog."
Enwebwyd Lawrence ar gyfer yr ysgoloriaeth gan Gadeirydd MArch1 Caroline Almond. I gael rhagor o wybodaeth am raglen MArch ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru ewch i dudalennau'r cwrs.