Cylch ‘byw’n gyflym, marw’n ifanc’ yn peryglu ecosystemau Califfornia
15 Mehefin 2021
Yn ôl gwyddonwyr, mae ecosystem gyfan o rywogaethau prin a rhywogaethau sydd mewn perygl ar hyd nentydd ac afonydd Califfornia dan fygythiad oherwydd y ffordd y mae dŵr yn cael ei reoli ledled y dalaith.
Mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae tîm sy’n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi datgelu’r niwed eang a hirdymor y mae pobl yn ei achosi drwy ddargyfeirio dŵr i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Darganfu’r tîm fod ‘cymorth dŵr’ y mae pobl yn ei gymryd o afonydd, camlesi amaethyddol a gweithfeydd trin dŵr gwastraff yn cael effaith ar ecosystemau Califfornia.
Er bod y mewnlifiad enfawr hwn o ddŵr yn gwneud pethau’n haws i’r ecosystemau hyn yn y tymor byr, mae’n achosi iddynt ddibynnu’n anfwriadol ar y cymorth artiffisial ac yn creu cylch ‘byw’n gyflym, marw’n ifanc’ sy’n peryglu goroesiad hirdymor ecosystemau coedwigoedd torlannol.
Mae hyn yn ei dro yn arwain at ôl-effeithiau ar gynefin rhywogaethau sydd mewn perygl, bioamrywiaeth, y broses o ddal a storio carbon a newid yn yr hinsawdd.
Califfornia yw un o ranbarthau mwyaf bioamrywiol y byd. Mae mwy o rywogaethau i’w cael yno na gweddill yr Unol Daleithiau a Chanada gyda'i gilydd.
Mae llawer o’r ecosystemau sydd wedi newid fwyaf yng Nghwm Canolog Califfornia, canolbwynt amaethyddol y dalaith sy’n cynhyrchu traean o gynnyrch yr Unol Daleithiau.
Gwnaeth y nifer enfawr o bobl a sefydlodd yng Nghaliffornia ar ôl y Rhuthr am Aur yn y 1850au arwain at glirio 95% o’r coetir ledled y rhanbarth a oedd yn orlifdiroedd naturiol. Mae'r coedwigoedd diarffordd a chyfyngedig hyn ar hyd afonydd – neu nentydd – bellach yn gynefin pwysig i amrywiaeth eang o rywogaethau sydd mewn perygl.
“Wrth i ddŵr gael ei ddargyfeirio o afonydd i gamlesi i ddiwallu anghenion trefoli a’r diwydiant amaeth sy’n werth miliynau o ddoleri, mae’n creu amgylchedd nad yw’n sefydlog yn naturiol i ecosystemau coetiroedd torlannol,” meddai Dr Michael Singer, cyd-awdur yr astudiaeth o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Mae hyn yn arwain at ffenomen ‘byw’n gyflym, marw’n ifanc’ sy’n ffafrio coed sy’n tyfu’n gyflym, yn cyrraedd uchafbwynt ac yn dirywio ar ôl hynny o fewn ychydig ddegawdau.”
Yn ei astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Proceedings of the National Academy of Sciences, dadansoddodd y tîm bum mlynedd o ddata ar wyrddni llystyfiant o ddelweddau lloerenni sydd ar gael yn gyhoeddus, gan gynnwys Google Earth.
Gwnaeth dull arloesol y tîm, drwy gyfuno sawl set ddata fawr, ei alluogi i ddeall sut mae’r hinsawdd a systemau rheoli dŵr yn rhyngweithio i roi'r ecosystemau sensitif hyn mewn perygl, a hynny mewn ffordd hollol newydd.
Yn hinsawdd tymhorol sych a chanoldirol Califfornia, mae planhigion ac anifeiliaid yn dibynnu ar dymhorau glawog y gaeaf ar gyfer ail-lenwi’r pridd â dŵr ar ôl cyfnodau sych a thymhorau sych y gwanwyn a’r haf ar gyfer atgynhyrchu a thyfu. Pan fydd yr holl ddŵr sydd ar gael yn y pridd wedi’i ddefnyddio, mae rhywogaethau coed fel coed helyg, coed cotwm a choed derw fel arfer yn defnyddio dŵr daear sydd yn ddyfnach.
Er mawr syndod i’r tîm, dangosodd yr astudiaeth fod y coetiroedd ar hyd nentydd yn rhanbarthau mwyaf sych y dalaith, a oedd wedi’u newid gan bobl, wedi aros yn wyrdd yn hirach yn ystod y tymor sych a’u bod yn ymateb llai i newidiadau yn lefel y dŵr daear nag ecosystemau naturiol.
Hefyd, dangosodd y tîm fod y gwaith o adfywio coedwigoedd newydd yn cael ei beryglu oherwydd y newidiadau helaeth i ffrydlifoedd a sianeli afonydd, newidiadau nad ydynt bellach yn creu gorlifdiroedd newydd lle gall coed ifanc sefydlu ac sy’n rhai parhaol.
“Rydym wedi rhoi’r llysenw ‘y meirw byw’ i’r coedwigoedd hyn am nad oes unrhyw lasbrennau na choed ifanc ar lawr y coedwigoedd a all gymryd lle’r coed aeddfed pan fyddant wedi marw,” meddai Melissa Rhode, prif awdur yr astudiaeth o Goleg Gwyddor yr Amgylchedd a Choedwigaeth Prifysgol Talaith Efrog Newydd a gwyddonydd yn The Nature Conservancy yng Nghaliffornia.
“Mae ein dulliau a’n canfyddiadau’n agor y drws i fyd hollol newydd o bosibiliadau o ran ymchwil ryngddisgyblaethol a sut y gall ymarferwyr dŵr ystyried anghenion dŵr ecosystemau er mwyn rheoli dŵr mewn ffordd gynaliadwy.”
Mae'r astudiaeth yn rhan o gyfres o brosiectau gwerth $2.5 miliwn rhwng cydweithwyr yng Ngholeg Gwyddor yr Amgylchedd a Choedwigaeth Prifysgol Talaith Efrog Newydd, Prifysgol Califfornia Santa Barbara a Phrifysgol Caerdydd. Mae’r prosiectau hyn yn cael eu hariannu ledled de-orllewin yr Unol Daleithiau a Ffrainc ar hyn o bryd i ddatblygu dangosyddion straen dŵr ar gyfer ecosystemau coedwigoedd torlannol sych sydd dan fygythiad oherwydd newid yn yr hinsawdd a’r galw cynyddol am ddŵr ymhlith pobl.