Ewch i’r prif gynnwys

Cyfieithiad Ffrangeg newydd o’r ffilm am arwyddion awtistiaeth yn mynd i 'helpu mwy o deuluoedd a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o’r cyflwr'

14 Mehefin 2021

Birthday Party French translation

Mae fersiwn Ffrangeg o'r ffilm arobryn The Birthday Party, a gafodd ei datblygu gan Ganolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru (WARC) ym Mhrifysgol Caerdydd a Thîm Awtistiaeth Cenedlaethol (NAT) Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi cael ei chreu ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheng flaen mewn gwledydd Ffrangeg eu hiaith.

Y gobaith yw y bydd y ffilm hon sydd newydd ei chyfieithu yn helpu gweithwyr proffesiynol rheng flaen i adnabod arwyddion awtistiaeth a gwneud diagnosis amserol ond hefyd yn codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd.

Gwnaeth Marie Tully, sy'n aelod o sefydliad awtistiaeth Gwlad Belg, Autisme en Action, gysylltu â WARC a'r NAT y llynedd i drafod gwneud fersiwn Ffrangeg o'r ffilm.

A hithau’n fenyw awtistig o Iwerddon sy'n byw yng Ngwlad Belg, roedd Marie’n ymwybodol iawn o'r angen am ragor o ymwybyddiaeth o awtistiaeth yng Ngwlad Belg. Gwnaeth Marie nid yn unig cychwyn y prosiect ond hefyd gyfieithu’r ffilm i’r Ffrangeg, tra bod ei gŵr yn gwneud y gwaith trosleisio.

Dywedodd sylfaenydd Autisme en Action, Flora Arrabito: “Yn aml, bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yng Ngwlad Belg yn colli arwyddion awtistiaeth, ac mae’r ffilm fer hon yn ffordd wych o ddatblygu eu dealltwriaeth.”

Sefydlwyd partneriaeth elusennol arall â’r gymdeithas Asperger Amitié yn Ffrainc. Dywedodd un o’r aelodau, Thomas Poncelet: “Yn Ffrainc, mae llai o bobl yn deall awtistiaeth ac, yn aml, mae’n cael ei stereoteipio, sy'n golygu nad yw llawer o bobl awtistig yn cael eu hadnabod na'u cefnogi. Bydd The Birthday Party yn helpu gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd yn Ffrainc i ddeall amrywiaeth y sbectrwm awtistiaeth a nodi’r arwyddion yn gynharach.

Mae'r ffilm yn dilyn tri phlentyn awtistig mewn parti pen-blwydd a, thrwyddyn nhw, rydym yn dysgu beth yw pum arwydd awtistiaeth ac ym mha ffyrdd gwahanol y gallant ddod i’r amlwg. Ffaith bwysig am y ffilm yw ei bod yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mae ar gael yn Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg a phedair iaith arall yn: www.autismchildsigns.com.

Roedd gwneud fersiwn Ffrangeg o The Birthday Party yn bosibl oherwydd cyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

"The team at WARC are extremely proud of the success of the Birthday Party film and we are delighted that it will now be available for the people of Belgium, France and other French-speaking countries to help improve understanding of autism."

Dr Catherine Jones Reader and Director of Wales Autism Research Centre

The film follows three autistic children at a birthday party and through them we learn about five SIGNS of autism and how they can present differently in different children. Importantly, the film is based on evidence produced at Cardiff University and is available in English, Welsh, French and four other languages at: www.autismchildsigns.com.

The French version of the Birthday Party Film was made possible by funding from the Economic and Social Research Council (ESRC).

Rhannu’r stori hon