Ewch i’r prif gynnwys

'Mae'n golygu cymaint i mi': Myfyrwyr yn sôn am eu balchder wrth i Brifysgol Caerdydd arwain y ffordd gydag addysg feddygol ddwyieithog

15 Mehefin 2021

Mae'r genhedlaeth nesaf o feddygon wedi bod yn siarad am yr hyn mae'n ei olygu iddyn nhw allu astudio Meddygaeth yn Gymraeg, wrth i fwy o fyfyrwyr nag erioed ddysgu yn eu mamiaith.

Rhedodd Prifysgol Caerdydd dathliad rhithwir ar 11 Mehefin i'r flwyddyn ddiweddaraf o fyfyrwyr sy'n graddio ar ôl cwblhau 30% o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Eleni, bydd chwe myfyriwr yn graddio - ac mae'r rheini sy'n astudio Meddygaeth ar hyn o bryd wedi bod yn siarad am eu balchder.

Dywedodd y myfyriwr ail flwyddyn Steffan Gwyn, 20, o bentref Fforest yn Sir Gaerfyrddin, ei fod yn hanfodol ar gyfer dysgu ac ymarfer.

"Mae'n golygu cymaint i fi allu astudio rhan o fy nghwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn wych fod Caerdydd yn arwain y ffordd ar hyn - ac rwy'n teimlo'n hynod o falch i allu bod yn rhan o'r fenter gymharol newydd hon," dywedodd.

"Rwy'n teimlo'n aml ei fod yn fy helpu i ddeall rhai cysyniadau penodol gan fod gallu esbonio'r wyddoniaeth mewn mwy nag un iaith yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i chi - rydych chi'n mynd drosto ddwywaith yn eich pen heb feddwl am y peth.

"Rwy hefyd yn meddwl ei fod yn hollbwysig gallu siarad gyda chleifion ym mha bynnag iaith sy'n eu gwneud nhw'n gyfforddus, oherwydd eu gofal nhw sy'n bwysig ac rwy am hwyluso hynny hyd eithaf fy ngallu. Yn ystod fy hyfforddiant rwy'n cofio ymweld â mam newydd ar ward obstetreg oedd wrth ei bodd ein bod ni’n gallu siarad gyda hi yn ei mamiaith.

"Cefais fy ngeni gyda nam ar fy ngolwg felly fel plentyn roedd rhaid i fi ymweld â'r optometrydd i gael sbectol newydd bob cwpl o fisoedd. Roedden ni'n lwcus fod yr optegydd roedden ni'n ei ddefnyddio'n siarad Cymraeg oherwydd doeddwn i ddim yn gallu siarad Saesneg yn iawn tan i mi fod tua phump oed. Ond cyd-ddigwyddiad llwyr oedd hynny - ac rwy'n credu y byddai cael mwy o gyfleoedd i ddysgu rhannau o gyrsiau, yn enwedig mewn gofal iechyd, drwy gyfrwng y Gymraeg, yn cynnig gwell mynediad i bawb."

Dywedodd Steffan, sy'n gobeithio arbenigo mewn meddygaeth bediatreg ar ôl graddio, ei fod yn gobeithio y byddai codi ymwybyddiaeth o astudio Meddygaeth yn Gymraeg yn annog darpar fyfyrwyr eraill i ddilyn yr un llwybr.

Er 2015, mae myfyrwyr yn derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio o leiaf 30% o'u gradd yn Gymraeg.

Fodd bynnag caiff darpariaeth ac addysgu Cymraeg eu cynnig i'r holl fyfyrwyr Meddygaeth, gyda dau aelod o staff wedi'u neilltuo i hwyluso dysgu ar sail achosion, asesiadau a lleoliadau gwaith.

Dywedodd Magi Tudur, 21, o Benisarwaun, Caernarfon, fod gallu cyfathrebu yn Gymraeg gyda chleifion wedi bod yn hynod o werthfawr yn ystod y pandemig.

"Oherwydd Covid, rydyn ni wedi gorfod mynd ar-lein i gwblhau ein lleoliadau gyda meddygon teulu, sydd wedi golygu siarad efo cleifion ar alwad fideo. Roedd yn ddefnyddiol bod yn ddwyieithog yn ystod y sesiynau hyn gan fod rhai cleifion yn Gymry iaith gyntaf ac eraill â Saesneg yn iaith gyntaf. Gall gweld cleifion ar-lein fod yn anodd felly roedd gallu siarad efo nhw yn eu hiaith gyntaf yn gymorth mawr," meddai.

Dywedodd Magi, sydd ar raglen gogledd Cymru C21 Prifysgol Bangor, sydd â phartneriaeth gyda Chaerdydd i gyflwyno hyfforddiant meddygol yn y gogledd, ei bod yn gobeithio y bydd myfyrwyr yn gallu astudio eu gradd yn gyfan gwbl drwy'r Gymraeg yn y dyfodol.

"Mae'n wych fod Caerdydd yn arwain y ffordd efo hyn a dwi'n lwcus iawn fy mod i ar gwrs lle gallwn ni ddysgu yn Gymraeg. Mae gennym ni brosiectau i'w gwneud trwy gydol ein gradd feddygol o'r enw SSC (cydrannau o ddewis y myfyriwr), a thrwy fod yn rhan o'r Coleg Cymraeg, dwi'n cael ysgrifennu fy mhrosiectau yn Gymraeg sydd wedi helpu llawer yn ystod fy nwy flynedd gyntaf o Feddygaeth," meddai.

"Mae hefyd yn bwysig gallu cyfathrebu gyda chleifion drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae siarad am iechyd a cheisio mynegi eich hun yn eich ail iaith yn gallu bod yn anodd iawn, ac ambell waith mae'n creu rhwystr yn y lleoliad gofal iechyd. Os mai'r Gymraeg ydy iaith gyntaf y claf, mae'n golygu llawer os ydyn nhw'n gallu cyfathrebu efo’r meddygon yn Gymraeg gan fod hyn yn rhoi cyfle llawn a theg iddyn nhw fynegi eu hanghenion a'u pryderon."

Ceir cyfanswm o 71 o fyfyrwyr Coleg Cymraeg ar hyn o bryd, sy'n dyst i'r diddordeb cynyddol a'r niferoedd o fyfyrwyr sy'n dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl Sara Vaughan, rheolwr datblygu'r Gymraeg yn Ysgol Meddygaeth y Brifysgol.

“Mae cyfraniad y myfyrwyr hyn i ddyfodol system gofal iechyd Cymru yn amhrisiadwy. Mae astudio meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg yn golygu y gall myfyrwyr ymarfer y ddwy iaith wrth drin cleifion ar lawr gwlad. Cyfathrebu da yw’r pwyslais yma ac mae ymarfer y ddwy iaith gyda’i gilydd yn rhoi'r modd i fyfyrwyr ragori wrth wneud hynny. Amlygir wir pâr mor bwysig a phwerus ydi iaith a mynegiant.

“Mae ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy'n cael ei dyfarnu i fyfyrwyr sy’n astudio o leiaf 30% o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, yn gymhelliant enfawr i fwy o fyfyrwyr achub ar y cyfle i gynnal a meithrin eu sgiliau iaith Gymraeg a dod yn feddygon fydd yn gallu trin cleifion naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.”

Rhannu’r stori hon