Angen cefnogaeth frys ar gyfer gofalwyr di-dâl
10 Mehefin 2021
Yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd, mae COVID-19 wedi gwaethygu’r heriau a wynebir gan ofalwyr di-dâl, ac wedi golygu nad oes ffynonellau cymorth pwysig ar gael ar eu cyfer.
Daeth i’r amlwg yn yr astudiaeth, a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod pobl sy'n gofalu am eu hanwyliaid wedi profi sawl math o bwysau ychwanegol ers dechrau'r pandemig. Roedd y rhain yn cynnwys ofni y byddai’r unigolyn o dan eu gofal yn cael ei heintio â COVID-19, pryderon ariannol oherwydd colli incwm a chostau cartref uwch, a methu â chael gafael ar wasanaethau cymorth.
Datgelodd y canfyddiadau fod teimladau o unigrwydd, unigedd a phryder wedi cynyddu a bod y rhain wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn pryderon iechyd meddwl.
Dywedodd rhai gofalwyr fod y mesurau rheoli a osodwyd mewn ymateb i COVID-19 wedi eu hysgogi i dreulio mwy o amser yn ymlacio gyda'r unigolyn o dan eu gofal, a bod hynny wedi bod o fudd i’w perthynas.
I eraill, fodd bynnag, roedd colli amser i ffwrdd oddi wrth yr unigolyn o dan ofal, yn ogystal â cholli gofod personol a gweithgareddau i wella eu lles eu hunain, fel treulio amser yn y gampfa, wedi arwain at fwy o densiwn a rhwystredigaeth a allai effeithio ar ba mor gynaliadwy yw eu rôl gofalu yn y tymor hir.
Yn ôl y prif awdur, Dr Dan Burrows, Darlithydd Gwaith Cymdeithasol yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd, mae angen “newid diwylliannol” i gydnabod a chefnogi gofalwyr di-dâl. Roedd o’r farn y dylai gwasanaethau arbenigol a hyblyg fod ar gael iddynt yn lleol, gan adeiladu ar wasanaethau hanfodol a ddarperir gan y trydydd sector yn bennaf.
Dywedodd: “Mae’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig yn dibynnu ar ofalwyr di-dâl.
“Yn ystod pandemig COVID-19, mae eu cyfrifoldebau wedi cynyddu'n sylweddol. Mae mwy o ofalwyr di-dâl nag erioed o'r blaen, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhai oedd yn rhoi gofal cyn y pandemig, erbyn hyn yn treulio mwy o amser yn rhoi gofal i rywun arall.
“Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl llawer o ofalwyr a bydd angen cymryd camau cyflym i helpu’r rhai sydd mewn argyfwng.”
Cynhaliodd Dr Burrows a chyd-awdur yr adroddiad, Dr Jen Lyttleton-Smith, Darlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, gyfweliadau manwl, trwy gyswllt fideo neu dros y ffôn, gyda 47 o bobl i gyd, oedd rhwng 15 ac 85 oed.
Mae’r cyfweliadau wedi amlygu maint yr heriau yr oedd gofalwyr yn eu hwynebu cyn y pandemig, natur profiadau’r gofalwyr yn ystod y pandemig, a beth yw eu gobeithion a’u pryderon ar gyfer y dyfodol.
Ychwanegodd Dr Lyttleton-Smith: “Er gwaethaf eu cyfraniad hanfodol bob dydd, nid yw’r gofalwyr di-dâl y buon ni’n siarad â nhw yn cael eu cydnabod yn ddigonol o bell ffordd mewn trafodaethau cyhoeddus am iechyd a gofal cymdeithasol. Maent wedi teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu yn ystod y pandemig, yn wahanol i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sydd wedi cael mwy o gydnabyddiaeth am eu hymdrechion.
“Roedd yr ymdeimlad hwn o anghyfiawnder yn fwy dwys yng nghyd-destun lefel ryfeddol yr aberth gan lawer o ofalwyr di-dâl ar ran yr unigolion o dan eu gofal, gan eu bod wedi cynyddu faint o ofal y maent wedi bod yn ei roi, yn ogystal â threulio llai o amser yn gofalu am eu lles a'u diddordebau eu hunain.
Mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion ar draws meysydd gweithredu eang: hunaniaethau a pherthnasoedd, iechyd a lles, cyflogaeth, addysg a chyllid, a gwasanaethau a systemau.
Mae'r rhain yn cynnwys nodi gofalwyr yn gynharach, pontio bylchau rhwng grwpiau cymorth cymdeithasol, cynnig gwasanaethau cwnsela a therapiwtig arbenigol, asesu cynaliadwyedd Lwfans Gofalwyr a chynnig cymorth cymdeithasol ac academaidd i ofalwyr mewn ysgolion a phrifysgolion.
Darllenwch yr adroddiad llawn, 'Lleisiau Gofalwyr yn ystod Pandemig COVID-19: Negeseuon ar gyfer dyfodol gofalu di-dâl yng Nghymru ', a gyhoeddwyd heddiw i nodi Wythnos Gofalwyr 2021.