Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 3 2020

9 Hydref 2020

HWB

Diolch

Mae ein cyfleuster wedi bod ar agor drwy gydol 2020 er mwyn galluogi gwaith hanfodol gan Brifysgol Caerdydd a busnesau allanol. Ymhlith y gweithgareddau i ymateb i COVID-19 oedd cefnogi'r gwaith o sefydlu sgrinio'r boblogaeth gan Brifysgol Caerdydd, a dilysu cynnyrch masnachol i gleient allanol.

Yn unol â dull cam wrth gam llwyddiannus Prifysgol Caerdydd i alluogi mynediad at labordai ymchwil, mae'n wych ein bod bellach yn gallu croesawu llawer mwy o ymchwilwyr yn ôl. Rydym hefyd yn annog busnesau allanol i barhau i gysylltu â ni am ein gwasanaethau.
Cyn dechrau gweithio yn ein cyfleuster, cofiwch gysylltu ag un o’n technolegwyr CBS. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn sicrhau ein bod yn rhoi'r diweddaraf i chi ar unrhyw fesurau sydd ar waith i alluogi gweithio diogel. Diolch i chi hefyd am barhau i ddefnyddio ein system archebu i archebu'r holl offer CBS yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio.

Diolch am eich cydweithrediad. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau.

Ymunwch â'n cyfres gweminarau Mynegiant Genynnau

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn cynnal cyfres gweminarau â thair rhan, Mynegiant Genynnau, gan ThermoFisher ym mis Tachwedd. Bydd y gweminarau hyn yn cael eu cynnal ddydd Mawrth 10 Tachwedd, dydd Mercher 11 Tachwedd a dydd Iau 12 Tachwedd, rhwng 2pm a 4pm bob diwrnod.

Cofrestrwch am y gweminarau ar y dolenni isod:
RHAN 1 Cyflwyniad i Fynegiant Genynnau - 10 Tachwedd
RHAN 2 Gweithdy qPCR - 11 Tachwedd
RHAN 3 Gweithdy Microarray - 12 Tachwedd

Mae'r gweminarau hyn ar agor i ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd, a sefydliadau a busnesau academaidd eraill.

Maent yn addas i ymchwilwyr sy'n newydd i'r meysydd hyn, yn ogystal ag ymchwilwyr mwy profiadol. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ymuno â ni.

@iamcardiffuni

Rydym yn edrych ymlaen at reoli cyfrif Twitter I am Cardiff rhwng 26 a 30 Hydref... Cymerwch olwg ar y cyfrif yr wythnos honno i weld gwybodaeth a newyddion ynghylch CBS!

Cyrsiau cytometreg Llif

Mae'n wych gweld cymaint o ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn cofrestru ar gyfer y cyrsiau theori cytometreg llif a meddalwedd FlowJo diweddaraf gan InCytometry, fydd yn cael eu cynnal fis Hydref.

Mae dal ychydig o leoedd ar gael ar gyfer y cwrs FlowJo ddydd Iau 29 Hydref (9.30am). Bydd rhagor o gyrsiau theori cytometreg llif yn cael eu cynnal cyn bo hir, felly cysylltwch â ni os hoffech gael eich rhoi ar y rhestr aros.

Gweminar Bionano Genomics

Cofrestrwch yma ar gyfer gweminar gan Bionano Genomics. Byddwn yn ei gynnal ddydd Mawrth 3 Tachwedd (10am). Er bod NGS wedi bod ar waith ers degawdau, mae heriau'n dal i fod pan fo samplau'n dangos amrywiadau strwythurol mawr a chymhleth. Gall Bionano Genomics greu delweddau o DNA moleciwlaidd trwm iawn, sy'n dangos amrywiadau strwythurol dros 500bp hyd at y maint uwchsail (megabase). Dewch i ymuno â'r gweminar i ddysgu mwy!
Register here for the webinar by Bionano Genomics that we are hosting on Tuesday 3rd November (10 am). While NGS has been around for decades, challenges are still presented when samples present large and complex structural variations. Bionano Genomics is able to image ultra high weight molecular DNA, spotting all structural variants over 500bp right up to the megabase size. Come and join the webinar to find out more!

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.