Llwyddiant partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd
7 Mehefin 2021
Prosiectau ymchwil cydweithredol a sgiliau busnes myfyrwyr yn datblygu wrth i gysylltiadau presennol â Phrifysgol Bremen barhau i ffynnu yn ystod y pandemig
Mae staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi parhau i fanteisio ar y cyfleoedd y mae partneriaeth strategol â Phrifysgol Bremen yn eu cynnig, er gwaethaf yr heriau sy’n deillio o’r pandemig byd-eang.
Er bod teithio’n rhyngwladol wedi’i gyfyngu, mae'r ddau sefydliad wedi datblygu ffyrdd newydd o weithio i gryfhau cysylltiadau presennol a chynnig cyfleoedd newydd i gydweithredu.
Mae Cronfa Gydweithredol Bremen-Caerdydd, a grëwyd i annog ymchwil ar y cyd rhwng y ddau sefydliad, yn ogystal â symudedd staff addysgu, staff technegol a staff gwasanaethau proffesiynol er mwyn rhannu arferion gorau, wedi bod ar gael o hyd.
Yng ngoleuni'r pandemig, anogwyd dull rhithwir neu gyfunol o gyflawni prosiectau.
Yn ddiweddar, gwnaeth Dr Flavia Boscolo-Galazzo, a oedd gynt yn ymchwilydd ôl-ddoethurol yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, sicrhau Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol Ewropeaidd Marie Skłodowska-Curie i ymuno â Chanolfan y Gwyddorau Amgylcheddol Morol (MARUM) ym Mhrifysgol Bremen.
Wrth dderbyn y Gymrodoriaeth, dywedodd: “Ni fyddai’r canlyniad gwych hwn wedi bod yn bosibl heb Gynghrair Bremen-Caerdydd, yr wyf wedi dechrau cydweithredu â MARUM drwyddi.
“Gwnaeth fy nyfarniad gan y Gronfa Gydweithredol gefnogi ymweliad ymchwil estynedig â Phrifysgol Bremen i ddatblygu a mireinio'r syniadau ar gyfer fy nghais am Gymrodoriaeth, yn ogystal â dod i adnabod y grŵp ymchwil y byddaf yn ymuno ag ef bellach. Bydd symud i MARUM yn gwella’r bartneriaeth a’r cysylltiadau ymchwil rhwng ein prifysgolion ymhellach, yn ogystal â rhoi hwb mawr i'm gyrfa academaidd.”
Mae Tîm Menter a Dechrau Busnes y Brifysgol hefyd wedi bod yn ymchwilio i ffyrdd arloesol o gynnwys myfyrwyr mewn gweithgareddau rhyngwladol, ac mae wedi bod yn manteisio i’r eithaf ar ei chysylltiadau ym Mhrifysgol Bremen i ddatblygu rhaglen newydd ar y cyd sy’n taflu goleuni ar ddiwylliant busnes y ddwy wlad.
Gwnaeth cyfanswm o 30 o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bremen gydweithio ar brosiect ar-lein a oedd yn ymchwilio i syniadau entrepreneur cymdeithasol, a gwnaethant ddatblygu eu sgiliau busnes drwy fod yn greadigol, datrys problemau a rhoi cyflwyniadau i fuddsoddwyr.
Yn ôl Cat Hindson, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd a gymerodd ran yn y prosiect: “Mwynheais i’r profiad yn fawr. Gwnaeth ragori ar fy nisgwyliadau, ac roedd yn amlwg faint o ymdrech a gafodd ei gwneud i sicrhau bod yr wythnosau’n wych.
“Roedd rhaglen Caerdydd-Bremen yn brofiad anhygoel o ymgysylltu â phobl debyg a gweithio’n greadigol wrth roi hwb i’m hyder a datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer dechrau fy musnes fy hun.”
Gwnaeth y Tîm Menter a Dechrau Busnes hefyd ddylunio a datblygu platfform ar-lein i roi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion ledled Cymru arddangos eu cynhyrchion a'u gwasanaethau a chyrraedd cynulleidfa fwy.
Cafodd y farchnad ei chreu mewn ymateb uniongyrchol i COVID-19 ac wrth sylweddoli bod y cyfyngiadau’n mynd i rwystro cynlluniau i roi cyfleoedd ‘prawf crefft’ traddodiadol.
Nod Cynghrair Bremen-Caerdydd yw galluogi rhagor o staff a myfyrwyr i symud rhwng sefydliadau a chael gafael ar gyllid ymchwil yn haws.
Mae ceisio sicrhau penodiadau anrhydeddus cytbwys o’r ddwy ochr rhwng grwpiau ymchwil yn galluogi staff i fod yn rhan o brosiectau ymchwil cydweithredol tymor hir, goruchwylio myfyrwyr PhD ac, yn bwysicaf oll, wneud cais am gyllid allanol drwy system genedlaethol y sefydliad partner ei hun.
Prifysgol Bremen yw un o ‘brifysgolion ifanc’ mwyaf blaenllaw’r Almaen. Mae ganddo oddeutu 20,000 o fyfyrwyr a 2,300 o academyddion. Mae ei gweithgareddau addysgu ac ymchwil yn ymestyn ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau yn y gwyddorau naturiol, peirianneg, y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau.
Ers 2012, mae wedi cael nawdd fel un o’r 11 prifysgol orau ym Menter Rhagoriaeth yr Almaen.