Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr yn codi llais i ganmol rhagoriaeth mewn addysgu

3 Mehefin 2021

Photos of Dr Smith and Dr Raymond
Dr Smith and Dr Raymond

Cydnabuwyd dau aelod o staff Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd ym mis Mai yn y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr, am eu cyfraniad sylweddol i'r profiad ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gwobrau blynyddol yw'r Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr a grëwyd i gydnabod staff a myfyrwyr sy'n cyfrannu at y profiad a geir ym Mhrifysgol Caerdydd.

Maen nhw'n gydnabyddiaeth arbennig gan fyfyrwyr i ymdrechion eithriadol i gyfoethogi profiad y myfyrwyr.

Yr aelodau staff a dderbyniodd yr anrhydedd oedd Vivien Raymond a Matt Smith.

Enillodd Dr Vivien Raymond wobr 'Aelod Staff Mwyaf Arloesol y Flwyddyn' a chyrhaeddodd Dr Matt Smith restr fer (o dri aelod o staff o blith yr holl Brifysgol!) ar gyfer y wobr 'Arwr COVID'.

Dr Raymond

Drwy ennill 'Aelod Staff Mwyaf Arloesol y Flwyddyn' caiff Dr Raymond ei gydnabod am ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu, gan gynnwys defnydd effeithiol o dechnoleg a thechnegau addysgu rhyngweithiol. Mae'r wobr hefyd yn cydnabod staff sy'n meithrin llais y myfyrwyr ac yn cefnogi datrysiadau cydweithredol i broblemau.

Wrth drafod ei wobr, dywedodd Dr Raymond:

"Mae'n anrhydedd cael derbyn gwobr 'Aelod Staff Mwyaf Arloesol' eleni. Mae'r myfyrwyr yn haeddu llawer o'r clod (gan gynnwys yr arddangoswyr oedd yn helpu i addysgu!), am fod yn barod (ac yn awyddus!) i roi cynnig ar ddulliau addysgu newydd, darparu adborth buan a meddylgar, ac yn gyffredinol gwneud y gorau o amgylchiadau anodd eleni."

Dywedodd Dr Richard Lewis, y Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu wrthym ni:

"Rwyf i wrth fy modd bod Vivien wedi'i gydnabod am ei waith caled a'i ymroddiad yn dod ag ymdeimlad o gymuned i'w fyfyrwyr drwy ddefnyddio amgylchedd dysgu arloesol o bell.  Mae Vivien wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i brofiad dysgu ei fyfyrwyr eleni, ac mae'n llawn haeddu'r wobr hon."

Dr Smith

Enwebwyd Dr Smith am y wobr 'Arwr COVID' am fod yn aelod o staff sydd wedi mynd y tu hwnt i unrhyw ddisgwyliadau i leihau effaith pandemig y Coronafeirws ar bobl eraill.

Mae'r wobr 'Arwr COVID' yn cynnwys mynd yr ail filltir i ddiogelu lles meddyliol neu gorfforol pobl eraill, cyflawni safonau addysg neu wasanaeth uchel, a defnyddio dyfeisgarwch i gynnig datrysiadau i broblemau'r cyfnod clo, cyfyngiadau pellter cymdeithasol a dysgu o bell.

Mae Dr Smith wedi bod yn arloesol ac yn gefnogol gydag addysgu wyneb yn wyneb lle bo'n bosibl ac wedi bod yn rhan ganolog o weithgareddau cymdeithasol rhithwir yr adran, yn trefnu coffi, tafarn, cwis a mwy bob wythnos!

Dywedodd ei gydweithiwr, Dr Sarah Ragan, y Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig:

"I mi, mae ymdrechion Matt i gadw cysylltiad â phobl wedi bod yn wirioneddol arwrol, o ystyried pa mor ynysig mae pawb wedi teimlo yn ystod y pandemig. Mae wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol sylweddol i ni i gyd."

Dywedodd Dr Smith am ei ddyfarniad:

"Bu'r 14 mis diwethaf yn heriol i fyfyrwyr a staff, a chafwyd ymdrechion enfawr gan lawer i geisio sicrhau'r profiad dysgu gorau. Rwy'n gwerthfawrogi cael fy ngosod ar y rhestr fer am y wobr hon a gwybod bod rhywbeth rwyf i wedi'i drefnu wedi cael effaith gadarnhaol ar fyfyrwyr."

Dywedodd yr Athro Peter Smowton, Pennaeth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth:

"Mae'r ffaith fod aelodau o staff ein Hysgol wedi derbyn y lefel hon o gydnabyddiaeth gan gynllun hynod gystadleuol ar draws y Brifysgol yn wych. Dyma gydnabyddiaeth haeddiannol gan ein myfyrwyr i ragoriaeth mewn addysgu."

Mae'r gwobrau ar agor i unrhyw fyfyriwr neu aelod o staff Prifysgol Caerdydd, a all hefyd enwebu unrhyw unigolyn (myfyriwr neu staff) mewn set o gategorïau.

Darllenwyd yr enwebiadau gan banel llunio rhestr fer yn cynnwys aelodau o Llais y Myfyrwyr a'r Tîm o Swyddogion Etholedig yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Yna fe'u beirniadwyd gan banel yn cynnwys myfyrwyr, staff Undeb y Myfyrwyr a staff y Brifysgol.

Gwahoddwyd yr enillwyr, ynghyd â'r unigolyn a'u henwebodd, i'r Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr rhithwir a gynhaliwyd fis diwethaf.

Mae llongyfarchiadau wedi llifo i mewn ar draws yr Ysgol, ac rydym ni'n adleisio’r dymuniadau hyn i Dr Raymond a Dr Smith - llongyfarchiadau eich dau!

Rhannu’r stori hon

There are so many reasons to choose physics and astronomy at Cardiff University.