Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn cefnogi consortiwm ymchwil i adferiad gwyrdd y Diwydiannau Sylfaen

7 Mehefin 2021

Bydd Prifysgol Caerdydd yn ymuno â chonsortiwm ymchwil yn edrych ar sut y gall Diwydiannau Sylfaen dyfu a datblygu wrth helpu i gyflawni targedau amgylcheddol Sero-Net 2050.

Mae'r Athro Rossi Setchi, Cyfarwyddwr Ymchwil yr Ysgol Peirianneg a'r Athro Sam Evans wedi sicrhau £400k + o gyllid gan Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol fel rhan o TransFIRE, Hyb Ymchwil ac Arloesi newydd y Diwydiannau Sylfaen.

Bydd tîm Caerdydd yn cydweithio'n agos gyda'r diwydiant metel i greu deunyddiau a phrosesau newydd, craff sy'n galluogi cynhyrchion rhatach, ynni isel a charbon isel.

Datblygwyd TransFIRe (hyb Transforming Foundation Industries Research and Innovation) mewn ymateb i alwad Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol i drawsnewid y Diwydiannau Sylfaen: cemegau, sment, cerameg, gwydr, metelau a phapur.

Mae'r diwydiannau hyn yn cynhyrchu 75% o'r holl ddeunyddiau yn economi'r DU ac yn hanfodol ar gyfer diwydiannau gweithgynhyrchu ac adeiladu'r DU. Gyda'i gilydd, gwerth y Diwydiannau Sylfaen i economi'r DU yw £52 biliwn, ac maen nhw'n cynhyrchu 28 miliwn o dunelli o ddeunyddiau bob blwyddyn, sy'n cyfrif am o ddeutu 10% o holl allyriadau CO2 y DU.

Mae Llywodraeth y DU yn awyddus i wneud y diwydiannau'n fwy cystadleuol yn rhyngwladol, er mwyn sicrhau swyddi yn y diwydiannau hyn a'u helpu i dyfu. Mae UKRI trwy Gronfa’r Strategaeth Ddiwydiannol wedi dyrannu £4.7M am dair blynedd i weithio gyda phrifysgolion, sefydliadau ymchwil a diwydiant, i gynorthwyo gyda datblygu a throsglwyddo technoleg, datblygiadau busnes newydd a chyfleoedd newydd mewn deunyddiau a thechnolegau i helpu i gyflawni targed Sero-Net 2050.

Dan arweiniad Prifysgol Cranfield, mae TransFIRe yn gonsortiwm o 20 ymchwilydd o 12 sefydliad, 49 cwmni a 14 corff anllywodraethol sy’n gysylltiedig â'r sectorau, gydag arbenigedd ar draws y diwydiannau sylfaen yn ogystal â mapio ynni, cylch oes a chynaladwyedd, symbiosis diwydiannol, cyfrifiadureg, deallusrwydd artiffisial a gweithgynhyrchu digidol, rheoli a busnes, gwyddorau cymdeithasol a throsglwyddo technoleg.

Arweinydd TransFIRe yw'r Athro Mark Jolly, Cyfarwyddwr Gweithgynhyrchu ym Mhrifysgol Cranfield ac mae'n cynnwys ymchwilwyr o brifysgolion Bangor, Caergrawnt, Durham, Caeredin, Exeter, Leeds, Northumbria, Sheffield Hallam a Chaerefrog ac Arolwg Daearegol Prydain.

Bydd y rhaglen yn datblygu Hyb hunangynhaliol o arbenigedd i gefnogi trawsnewidiad y Diwydiannau Sylfaen i weithgynhyrchu cystadleuol, modern, effeithlon o ran adnoddau, di-lygredd sy'n gweithio mewn cytgord â chymunedau eu hardal, a darparu mannau cyflogaeth deniadol gyda pherfformiad digymar o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Bydd yr Hyb hefyd yn helpu diwydiannau fel metelau, gwydr, sment a phapur i fynd i'r afael â’u heriau cyffredin a chyflymu gwaith i ddatblygu a mabwysiadu technolegau a modelau busnes newydd.

Rhannu’r stori hon