Ewch i’r prif gynnwys

Cynghorion arbenigwr ynni cynaliadwy gerbron ymchwiliad gwladol dros amgylchedd heb garbon

9 Mehefin 2021

Sustainable_energy1

Roedd yr Athro Jianzhong Wu yn dyst arbenigol gerbron ymchwiliad Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin i rôl hydrogen ynghylch cael gwared ar garbon erbyn 2050.

Cynhaliodd Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin bedwerydd sesiwn ei ymchwiliad i rôl hydrogen ynghylch amgylchedd heb garbon ar 12fed Mai 2021. Cymerodd yr Athro Jianzhong Wu ran yn y sesiwn ynghyd â Carl Arntzen, Prif Weithredwr Bosch Thermaltechnology Limited, gan gyflwyno tystiolaeth am rôl hydrogen ynghylch gwresogi cartrefi ac yn rhan o gyfundrefn ein nwy.

Mae’r Athro Wu yn arwain Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd ac yn cyfarwyddo ar y cyd Ganolfan Ymchwil i Ynni’r DG, lle mae’n llywio ymchwil i ddefnyddio ynni ar gyfer gwres. At hynny, ef yw prif ymchwilydd prosiect MC2 sydd wedi bod yn ystyried ffyrdd arloesol o gyflenwi trydan yn gynaliadwy yn nhrefi’r deyrnas hon a Tsieina.

Fe roes yr Athro Wu dystiolaeth am rôl hydrogen ynghylch gwresogi cartrefi. Trafododd faterion megis daearyddiaeth, datblygu’r isadeiledd a’r datblygiadau technolegol a fydd yn angenrheidiol. At hynny, ystyriodd yr ymchwiliad wahanol fathau o sustemau hydrogen, ffynonellau eraill megis pympiau gwres, ffactorau cost-effeithiolrwydd a thystiolaeth o wledydd eraill.

Ynghylch rôl hydrogen yng nghyd-destun yr hyn sydd i’w gyflawni erbyn 2050, meddai’r Athro Wu:

“Mae cynnydd yr arloesi’n gyflymach o lawer na’r disgwyl. Er bod angen inni gofio nad yw popeth yn hysbys, ddylen ni ddim aros. Mae digon o bethau anhysbys o’n blaenau ni, ond rhaid inni ddod i benderfyniad. Gan fod cynnydd yr arloesi mor gyflym, mae’n bur debyg y gallai hydrogen fod yn ateb cost-effeithiol y tu hwnt i 2035 a chyflawni rôl bwysig iawn o ran cydymffurfio â’r targedau erbyn 2050.”

Yn ystod ei dystiolaeth, dywedodd yr Athro Wu fod hydrogen yn dechnoleg addawol iawn er y bydd ei lwyddiant yn dibynnu ar y cyd-destun a’r lle. Ar ben hynny, pwysleisiodd yr Athro Wu y bydd ffynhonnell hydrogen a’r ffyrdd o’i gynhyrchu cyn bwysiced â ble a sut y gallwn ni ei ddefnyddio:

“Mae hydrogen yn adnodd craidd i sectorau o ran cwtogi ar garbon. Gallen ni ei ddefnyddio i gwtogi ar garbon mewn sectorau anodd megis y byd diwydiannol, am fod llawer ohono yno, yn ogystal â chludiant sy’n sector anodd arall mae angen inni edrych arno. Ynghylch gwresogi, mae atebion amgen megis pympiau gwres neu wresogi dosbarth, yn ogystal â mathau eraill o wres adnewyddadwy. Mae’n amlwg na allwn ni ddefnyddio rhai dulliau mewn hen adeiladau. Rwy’n cytuno y bydd hydrogen yn bwysig iawn mewn rhai lleoedd.”

Dyma gofnod o’r ymchwiliad: Committees - UK Parliament

Rhannu’r stori hon