Canfyddiadau Astudiaethau Etholiad Cymru a’r Alban i’w datgelu i’r cyhoedd
27 Mai 2021
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/2522837/scottish-welsh-flags-3414606.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cynnal gweminar gyhoeddus yn datgelu canfyddiadau cychwynnol Astudiaethau Etholiad Cymru a'r Alban 2021, a gynhaliwyd gan dimau sy’n gweithio ar draws chwe phrifysgol. Rhain yw’r arolygon mwyaf helaeth o etholiadau datganoledig yn y DG hyd yma.
Yn sgil y canlyniadau ysgubol a gafodd y pleidiau mewn grym yn yr etholiadau, mae'r astudiaethau'n darparu dadansoddiad ac esboniad am ymddygiad pleidleiswyr, ac yn cynnwys goblygiadau sylweddol i ddatganoli a dyfodol y DG.
Mewn gweminar Zoom ddydd Mercher, Mehefin 9fed, cyflwynir tystiolaeth newydd sy’n esbonio sut y pleidleisiodd pobl yng Nghymru a'r Alban a pham, o’r ymateb i ymgyrchoedd ac arweinwyr y pleidiau, i gwestiynau ar hunaniaeth genedlaethol a gwerthoedd gwleidyddol.
Mae'r digwyddiad yn agored i bawb ac mae modd cofrestru drwy ddilyn y ddolen hon.