“Byddwch yn ddewr” a chofrestrwch ar gyfer dosbarth Mandarin yr haf hwn
25 Mai 2021
Mae pobl yn dilyn cyrsiau iaith am sawl rheswm: Efallai eu bod ei angen at ddibenion gwaith neu fynd ar wyliau, neu efallai bod ganddyn nhw ddiddordeb yn y diwylliant neu eisiau cwrdd â phobl o'r un anian.
Yn yr un modd, mae gan ddysgwyr Mandarin bob math o resymau dros gofrestru ar gyfer cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Er enghraifft, rydym wedi cael myfyrwyr sydd eisiau parhau â'r hanfodion y maen nhw wedi'u dysgu - boed hynny ym myd addysg, gan ffrindiau neu drwy ymweld â Tsieina; pobl sy'n bwriadu sefyll arholiadau HSK; a'r rhai a hoffai siarad â ffrindiau (a hyd yn oed eu tri phlentyn bedydd) yn eu hiaith frodorol. Roedd un dysgwr hyd yn oed eisiau datblygu’r hyn roedd hi wedi'i ddysgu wrth weithio mewn bwyty Tsieineaidd!
Eleni, aeth traean o'r graddedigion o'n cyrsiau Mandarin i Athrawon ymlaen i Addysg Barhaus a Phroffesiynol. A hwythau’n dod o ysgolion cynradd ac uwchradd, roeddent am ddatblygu eu sgiliau iaith Tsieinëeg fel y gallent helpu eu myfyrwyr: “Roeddwn i eisiau gwella fy Tsieinëeg er mwyn gallu addysgu Mandarin sylfaenol i'm disgyblion MFL CA3, yn enwedig yn absenoldeb addysgu Dosbarth Confucius wyneb yn wyneb,” meddai Lisa Williams o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ysgol Gymraeg yn Nyffryn Rhymni.
Canfu Lisa fod ei chwrs ABPh yn gyfuniad cynhwysfawr o'r pedwar sgil - ysgrifennu, darllen, siarad a gwrando - ynghyd â gramadeg a diwylliant. Meddai: “Fe wnaethon ni ddysgu am bynciau defnyddiol pob dydd a fyddai’n fuddiol wrth ymweld â Tsieina yn y dyfodol, neu ar gyfer sgwrsio â phobl Tsieineaidd yn y DU. Roedd y ramadeg yn ddiddorol iawn i fi ac roeddwn yn mwynhau cymryd rhan yn yr ymarferion chwarae rôl.” Teimlai Lisa fod ei hyder wrth addysgu Mandarin wedi datblygu trwy ddilyn y cwrs, gan ennyn brwdfrydedd ei disgyblion tuag at yr iaith hefyd.
Roedd Clare Pocock o Ysgol Gynradd Maes y Coed ym Mhontypridd yn athrawes arall a nododd fod astudio Mandarin yn y Brifysgol wedi bod yn fuddiol i'w disgyblion. Roedd hi'n gallu defnyddio hyd yn oed yr hanfodion roedd hi wedi'u dysgu i'w helpu i ymarfer: “Gan fy mod yn gwybod rhifau a misoedd, gallwn ofyn cwestiynau i'm disgyblion am eu hoedran a'u penblwyddi a gallwn ddeall yr atebion! Fel athro, mae [cymryd cwrs mewn Mandarin] yn rhoi hyder i chi gyflwyno'r wers eich hun,” meddai.
Mae Lauren Davies o Ysgol Gynradd Abercerdin yn y Porth newydd gwblhau’r cwrs ABPh Rhan II i Ddechreuwyr, ac mae'n arbennig o frwd dros ddysgu Mandarin. Mae hi'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd y dosbarthiadau ond sy'n poeni y gallai’r cwrs fod yn rhy anodd i fod yn ddewr a chofrestru. Meddai: “Mae Mandarin yn iaith resymegol iawn - dim ond 'diwrnod un' ar gyfer dydd Llun, 'diwrnod dau' ar gyfer dydd Mawrth ac ati yw'r dyddiau wythnos er enghraifft - a’r un peth yw hi gyda'r misoedd hefyd."
“Rwy'n gwybod bod pobl yn poeni am y tonau yn Mandarin, ond ar ôl i chi eu dysgu maen nhw’n eithaf hawdd - dydyn nhw byth yn newid, a byddwch chi'n gallu ynganu popeth! Peidiwch â chynhyrfu - nid yw Tsieinëeg mor anodd ag y mae'n ymddangos, ac mae ymuno â dosbarth yn golygu bod gennych bobl eraill yn yr un sefyllfa â chi.”
Os hoffech chi ymuno â chwrs iaith ddwys mewn Tsieinëeg Mandarin ym mis Mehefin/Gorffennaf, cofrestrwch ar wefan Prifysgol Caerdydd. Bydd y cyrsiau ABPh rhan-amser gyda'r nos i oedolion yn dechrau eto ym mis Medi, a gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion yn ddiweddarach yn yr haf.