Ewch i’r prif gynnwys

Academydd o Gaerdydd wedi’i enwi’n Llywydd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol

25 Mai 2021

Mae'r Athro Mike Edmunds, o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, wedi'i ethol yn Llywydd nesaf y Gymdeithas Seryddol Frenhinol (RAS).

Wedi'i gyhoeddi yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol RAS, bydd yr Athro Edmunds yn eistedd ar Gyngor RAS ar unwaith a bydd yn dechrau yn ei swydd ym mis Mai 2022, gan wasanaethu fel Llywydd am ddwy flynedd.

Mae'r Gymdeithas Seryddol Frenhinol (RAS), a sefydlwyd ym 1820, yn annog ac yn hyrwyddo astudio seryddiaeth, gwyddoniaeth cysawd yr haul, geoffiseg, a meysydd gwyddoniaeth tebyg.

Gyda thros 4,000 o aelodau, mae'r RAS yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau sy'n gwasanaethu'r gymuned seryddiaeth, o gyfarfodydd gwyddonol misol a blynyddol i gyhoeddi cyfnodolion academaidd sy'n arwain y byd ac ymgysylltu â'r cyhoedd trwy raglen allgymorth seryddiaeth helaeth.

Mae'r Athro Edmunds, cyn Bennaeth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, wedi treulio rhan fawr o'i yrfa yn ymgymryd ag ymchwil i bennu cyfansoddiad cemegol galaethau a'r Bydysawd.

Ar ôl derbyn ei radd israddedig a'i ddoethuriaeth o Brifysgol Caergrawnt, symudodd i Gymru lle mae wedi gweithio am dros 45 mlynedd. Bu'n aelod o ddau o Gynghorau Ymchwil y DU.

Arweiniodd yr Athro Edmunds Brosiect Ymchwil Mecanwaith Antikythera, cydweithrediad rhyngwladol sy'n ymchwilio i'r peiriant seryddol rhyfeddol sy'n dyddio o tua 200 CC, a ddarganfuwyd gan ddeifwyr sbwng dros ganrif yn ôl, oddi ar ynys Antikythera yng Ngwlad Groeg.

Wedi'i ddisgrifio fel yr enghraifft hynaf o gyfrifiadur analog, mae ymchwil gan yr Athro Edmunds a'i dîm wedi dangos sut y cafodd ei ddefnyddio i ragfynegi safleoedd seryddol ac eclipsau, ddegawdau ymlaen llaw.

Wrth gael ei ethol yn Llywydd, dywedodd yr Athro Edmunds: “Mae’n anrhydedd fawr iawn imi ddod yn Llywydd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol. Mae'n sefydliad uchel ei barch yr wyf wedi mwynhau gweithio gydag ef yn y gorffennol, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at chwarae rhan fawr yn ei ddatblygiad yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Peter Smowton, Pennaeth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth: “Rwy’n falch iawn o longyfarch Mike ar ei benodiad yn ddarpar Lywydd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol. Mae Mike yn addysgwr, gwyddonydd a rheolwr ysbrydoledig gyda galluoedd a brwdfrydedd aruthrol a bydd mewn cwmni da, gan ddod â'r sgiliau hyn i'r safle mawreddog hwn, gyda hanes o gael gwyddonydd rhagorol wrth y llyw."

Rhannu’r stori hon