Y Deon Ymchwil, Amgylchedd a Diwylliant Newydd
28 Ebrill 2021
Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen yw'r Deon newydd dros yr Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil a dechreuodd yn y rôl ar 19 Ebrill.
Mae hi'n cymryd yr awenau oddi wrth yr Athro Claire Gorrara, sydd wedi symud i rôl Deon Ymchwil ac Arloesedd yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Yn ei rôl newydd, bydd Karin yn canolbwyntio ar wella amgylchedd ymchwil gynhwysol, gydweithredol a chreadigol yn y Brifysgol. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau allweddol sydd wedi'u cynllunio i gefnogi ein staff ymchwil ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, polisïau amgylchedd ymchwil, rhagoriaeth ymchwil sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth tîm, gwyddoniaeth agored, a'n dull o asesu ymchwil. Bydd yr Athro Wahl-Jorgensen hefyd yn gweithio'n agos gyda Dr Sam Hibbitts, ein Deon Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, i sicrhau bod ein hamgylchedd ymchwil yn gynhwysol.
Mae'r Athro Wahl-Jorgensen wedi bod yn y Brifysgol ers y flwyddyn 2000, yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant. Rhwng 2012 a 2020, bu’n Gyfarwyddwr yr Amgylchedd Ymchwil yn yr ysgol.
Dywedodd yr Athro Wahl-Jorgensen, “Rwy’n falch iawn i wneud y swydd hon, gan weithio gyda chydweithwyr ledled y Brifysgol i ddatblygu ein diwylliant a’n hamgylchedd ymchwil. Mae'r rôl yn arwydd o ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i’r weledigaeth gynhwysol o ddatblygu rhagoriaeth ymchwil yn seiliedig ar werthoedd a rennir, ac rwy’n edrych ymlaen at hyrwyddo'r weledigaeth hon."
Dywedodd yr Athro Kim Graham, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter, “Mae’n bleser mawr gallu gweithio gyda Karin ar ddiwylliant ymchwil, gan dynnu ar ei harbenigedd a’i gwybodaeth yn y maes hwn. Mae hyrwyddo diwylliant cynhwysol, sy'n galluogi ein cymuned ymchwil amrywiol i ffynnu, yn rhan hanfodol o agenda ymchwil ac arloesedd y Brifysgol yn y dyfodol. Mae Karin a minnau’n ddiolchgar i Claire Gorrara a Mari Nowell am eu gwaith cynnar rhagorol yn y maes hwn, sy’n darparu sylfaen gref inni hyrwyddo a gwella diwylliant ymchwil yn gyflym ar draws y brifysgol.”