RemakerSpace joins Wales’ newest innovation hub
24 Mai 2021
Mae RemakerSpace - canolfan newydd ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n ymroddedig i ail-weithgynhyrchu ac ailddefnyddio - i symud i gartref pwrpasol yn adeilad newydd sbarc | spark.
Sefydlwyd RemakerSpace, canolfan economi gylchol arloesol sy'n cynnwys offer a ariennir yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru, gan Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Rhestr Eiddo PARC ac mae'n gweithredu gyda chefnogaeth DSV.
Mae'r fenter nid-er-elw sy’n ymgysylltu â chymunedau a busnesau yn cefnogi estyniad cylch bywyd cynhyrchion a diwedd ar ddarfodiad wedi'i gynllunio. Nod y ganolfan yw sbarduno newidiadau agwedd sylfaenol at y ffordd yr ydym yn dylunio, yn defnyddio ac yn cael gwared ar gynhyrchion.
Mae'r ganolfan yn cyd-fynd â chenhadaeth Llywodraeth Cymru i adeiladu'r economi gylchol ac i ddatblygu Cymru ddi-wastraff, sero carbon net.
Dywedodd Julie James, Gweinidog newydd Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru: "Yn wyneb argyfwng yr hinsawdd ac argyfwng bioamrywiaeth fyd-eang, mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu ei Chronfa Economi Gylchol o £6.5m i £43m.
“Bydd paru ffyrdd newydd o weithio ym meysydd ail-weithgynhyrchu ac ailgylchu â datblygiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yn hollbwysig ar ein taith i greu Cymru gryfach, wyrddach a thecach.”
Dyma'r fenter ddiweddaraf ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd-DSV a gyflwynir gan PARC.
Dywedodd Mike Wilson, Is-lywydd Gweithredol Gwasanaethau Gweithgynhyrchu Logisteg DSV a Chyfarwyddwr Diwydiant PARC: “Mae sefydliad PARC wedi adeiladu perthynas gref â Phrifysgol Caerdydd dros yr wyth mlynedd diwethaf i fynd i’r afael â heriau i gadwyni cyflenwi byd-eang, galw gan ddefnyddwyr ac, yn bwysicaf oll, ein planed.
“Mae RemakerSpace sefydliad PARC yn gam nesaf uchelgeisiol at DSV i ddatblygu ei ymgyrch dros ddad-fateroli ac economi gylchol. Bydd RemakerSpace yn caniatáu i DSV ennill gwybodaeth a sgiliau hanfodol i ddatblygu ei Wasanaethau Remaker gan alluogi cyfleoedd estyn cylch bywyd cynhyrchion i'n cwsmeriaid. Mae RemakerSpace hefyd yn rhoi llwyfan inni ymgysylltu â'r gymuned a datrys anghenion cynaliadwyedd cadwyni cyflenwi yn y dyfodol, gan nodi Cymru fel cenedl arloesol ar y map byd-eang. Rydym yn edrych ymlaen at y cyfleoedd newydd y bydd RemakerSpace yn eu hagor i ni i gyd.”
Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o groesawu RemakerSpace i sbarc | spark. Mae ffocws y ganolfan ar ailddefnyddio ac ail-weithgynhyrchu yn ategu ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Wedi'i leoli ochr yn ochr â 400 o ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol, bydd RemakerSpace yn helpu i dyfu cydweithrediadau a phartneriaethau sy'n cynhyrchu atebion rhyngddisgyblaethol i heriau cymdeithasol dybryd."
Mae RemakerSpace yn ganlyniad i ymchwil sylfaenol bwysig a gynhaliwyd gan PARC i gadwyni cyflenwi cylchol a chadwyni cyflenwi wedi'u galluogi gan argraffu 3D.
Dywedodd Aris Syntetos, Athro Ysgol Busnes Caerdydd, Cadeirydd PARC a Chyfarwyddwr RemakerSpace: “Arweiniodd undeb y ddau faes hyn at gais cyllido llwyddiannus i Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r ganolfan. Gyda pheiriannau argraffu 3D o'r radd flaenaf a chyfarpar ail-weithgynhyrchu arall, bydd y ganolfan yn chwarae rhan allweddol wrth godi ymwybyddiaeth o werth yr economi gylchol, gan adlewyrchu ethos gwerth cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd ac ymrwymiad y Brifysgol i Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Mae ein gwaith bob amser wedi cael ei danlinellu nid yn unig gan bryderon ariannol ond hefyd amgylcheddol a chymdeithasol, ac rydym yn falch o gyflwyno RemakerSpace i'r byd.”
Mae RemakerSpace yn cyd-fynd â ffocws strategol Prifysgol Caerdydd ar gynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd adeilad sbarc | spark yn gartref i 400 o ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol o ganolfannau gan gynnwys y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol (CAST) a'r Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy.
Bydd y ganolfan yn meddiannu dwy uned ar lawr gwaelod sbarc, lle bydd ymchwilwyr yn gweithio gyda'r sectorau cyhoeddus, preifat a’r Trydydd sector i greu, profi a deori mentrau newydd. Disgwylir i'r adeilad agor yn hydref / gaeaf 2021.