Ysgol yn croesawu arbenigwyr iaith a chyfieithu yn Athrawon Anrhydeddus
21 Mai 2021
Bydd dau arbenigwr ym maes iaith a chyfieithu yn ymuno â'r Ysgol Ieithoedd Modern y mis hwn fel athrawon anrhydeddus.
Enwebwyd yr Athro Loredana Polezzi a Dr Jairos Kangira yn athrawon anrhydeddus gan yr Athro Claire Gorrara o'r Ysgol Ieithoedd Modern a'r Athro Judith Hall o'r Ysgol Meddygaeth yn sgil eu cyfraniad a'u harweiniad ym Mhrosiect Phoenix y Brifysgol. Mae'r ddau athro wedi chwarae rhan allweddol yn y prosiect sy'n bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia.
Tan yn ddiweddar, roedd yr Athro Polezzi yn rhan o'r Ysgol Ieithoedd Modern yn Athro Astudiaethau Cyfieithu. Ym mis Medi 2020 symudodd i Brifysgol Stony Brook yn Efrog Newydd i Gadair Alfonse M. D’Amato mewn Astudiaethau Americanaidd-Eidalaidd ac Eidalaidd. Mae'r Athro Polezzi yn aelod uchel ei pharch o'r gymuned academaidd ryngwladol gydag arbenigedd mewn ymagweddau trawswladol wrth astudio ieithoedd a diwylliannau. Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd, arweiniodd ar brosiectau sylweddol yn cefnogi datblygiad astudiaethau cyfieithu, yn cynnwys y MOOC hynod lwyddiannus, Working with Translation, a gwnaeth gyfraniad uchel ei effaith i ymchwil ryngddisgyblaethol.
Yr Athro Kangira yw Deon y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Namibia. Mae'n uchel ei barch yn Namibia a thrwy ddeheudir Affrica fel ysgolhaig ag effaith fyd-eang. Cyswllt cyntaf yr Athro Kangira gyda Phrosiect Phoenix oedd gydag edefyn cyfathrebu'r prosiect yn 2015. Ffurfiwyd gwaith cydweithredol clos aml-ffordd, a bu'n bosibl i Brosiect Phoenix ddod â'r Athro Kangira a'i dîm o arbenigwyr iaith ac ieithyddiaeth i gyfrannu yn y prosiect ymchwil ‘Transnationalizing Modern Languages: Global Challenges’, dan arweiniad yr Athro Polezzi.
Rhagwelir y bydd y proffeswriaethau anrhydeddus yn sail ar gyfer cydweithio yn y dyfodol rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrosiect Phoenix, Prifysgol Stony Brook a Phrifysgol Namibia, yn bennaf oll ym meysydd addysg a chyfleoedd datblygu.
Dywedodd yr Athro Claire Gorrara, "Rydym ni wrth ein bodd yn adeiladu ar ein gwaith presennol gyda'r Athro Polezzi a'r Athro Kangira. Mae partneriaethau byd-eang, sy'n gweithio er budd pobl ym meysydd addysg ac ieithoedd, yn greiddiol i genhadaeth cymunedau iaith fodern yn y DU ac rydym yn hynod falch i fod yn arwain ar hyn o Gaerdydd.”
Ychwanegodd yr Athro Judith Hall, "Fel arweinydd Prosiect Phoenix ar ran Prifysgol Caerdydd, bu'n brofiad gwych cael gweithio gyda'r Athro Loredana Polezzi a'r Athro Jairos Kangira dros y bum mlynedd ddiwethaf. Maen nhw'n ffigurau pwysig yn fyd-eang mewn Ieithyddiaeth ac Amlieithrwydd, a bydd Prosiect Phoenix yn siŵr o elwa drwy eu cadw'n agos at ein prosiectau sy'n seiliedig ar effaith. Llongyfarchiadau i'r ddau ar gael eu cydnabod gyda Chadair Anrhydeddus."
Nod Prosiect Phoenix yw gwella ansawdd bywyd pobl Namibia a Chymru trwy rannu dysg. Mae prosiectau dan ymbarél Phoenix yn amrywiol iawn ac wedi cynnwys addysg meddygon a nyrsys, cefnogaeth i greu sector meddalwedd llwyddiannus yn Namibia ac annog diddordeb mewn diwylliant ac ieithoedd cenedlaethol ymhlith pobl ifanc.
le.