Amser i fanteisio ar aflonyddwch COVID-19 i fabwysiadu ymddygiadau gwyrdd, yn ôl arbenigwyr
19 Mai 2021
Wrth i fesurau’r cyfyngiadau symud lacio’r wythnos hon yn y DU, mae seicolegwyr amgylcheddol yn annog ein bod, cyn rhuthro yn ôl i’n hen arferion, yn manteisio ar y newidiadau a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf i fabwysiadu ymddygiadau gwyrdd.
Cafwyd erthygl gan y tîm o Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (CAST) yn y cyfnodolyn Current Opinion in Psychology. Ynddo maent yn awgrymu y dylem ni dargedu ymyriadau amgylcheddol gyda'r nod o leihau ein hallyriadau ar adegau pan fydd ein harferion yn wan ac yn hydrin i newid.
Mae eu gwaith yn tynnu ar y syniad o aflonyddu ar arferion dros dro lle gall newidiadau mawr yn ein bywydau roi cyfle i newid ymddygiadau.
I ddechrau, canolbwyntiodd yr ymchwil hon ar effaith digwyddiadau bywyd, megis symud tai, a'r effaith y gallai hyn ei chael ar newid ymddygiad cymudo unigolion (ee beicio i'r gwaith yn lle gyrru). Dywedir y bydd yr effaith hon yn para am ddim ond tri mis cyn i arferion gael eu gwreiddio eto.
Yn eu herthygl, mae'r tîm ymchwil yn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth lle mae angen cymryd camau personol i leihau ein hallyriadau yn unol â tharged sero net y DU. Mae'r rhain yn cynnwys hedfan - y gweithgaredd allyrru carbon uchaf ar hyn o bryd - a bwyta llai o gig coch a chynhyrchion llaeth.
Amlygodd arolygon a gynhaliwyd gan CAST trwy gydol y pandemig sut roedd cyfnodau clo’r DU yn lleihau olion traed carbon unigolion yn sylweddol, gyda phobl yn prynu ac yn teithio llawer llai. Yn ogystal, nid yw’n ymddangos bod effaith y pandemig wedi lleihau bodlonrwydd unigolion i weithredu dros yr hinsawdd neu eu pryder am argyfwng yr hinsawdd.
Dywedodd Cyfarwyddwr CAST, yr Athro Lorraine Whitmarsh, o Brifysgol Caerfaddon: “Mae COVID-19 yn cynrychioli’r aflonyddwch mwyaf sylweddol i ffyrdd o fyw ers yr Ail Ryfel Byd - mae pobl wedi bod yn gweithio, yn bwyta ac yn rhyngweithio mewn ffyrdd newydd, gyda llawer ohonynt yn dda i’r hinsawdd a gallent hefyd wella lles.
“Wrth i gyfyngiadau symud lacio, mae angen i gyflogwyr, arweinwyr dinasoedd a’r llywodraeth nawr weithredu mesurau a fydd yn mabwysiadu’r ymddygiadau cadarnhaol hyn, er mwyn galluogi adferiad gwyrdd yn hytrach na dychwelyd i’r hen arferion.”
Dywedodd y cyd-awdur Dr Stuart Capstick, Cymrawd Ymchwil o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: “Gobeithio y gallwn gymhwyso rhai o’r gwersi o flwyddyn anodd iawn i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd hefyd. Mae pob un ohonom wedi gorfod dod i arfer â'r syniad bod ein gweithredoedd ein hunain yn bwysig i iechyd a lles pobl eraill.
“O ran lleihau allyriadau a sicrhau ffyrdd carbon isel o fyw, mae tebygrwydd pwysig yma ac angen i ni gymryd ein rhan o ddifrif yn hynny.”
Heddiw bydd yr Athro Whitmarsh yn cyflwyno yn y ClimateExpo, cynhadledd fawr sy'n cael ei chynnal trwy'r wythnos i dynnu sylw at y syniadau diweddaraf a'r ymchwil ryngwladol mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd a sero net yn y cyfnod cyn COP26.
Rhagor o wybodaeth yma am y digwyddiad wythnos o hyd rhad ac am ddim, a gynhelir chwe mis cyn Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig COP26 yn Glasgow.