Cymrodoriaethau'n cydnabod cyfraniadau sylweddol ym mlwyddyn y pandemig
17 Mai 2021
Mae ymchwilwyr sy'n arbenigo mewn cydraddoldeb hiliol ac mewn polisi economaidd rhanbarthol ymhlith y 45 o academyddion, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol newydd sy'n cael eu croesawu i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae'r athrawon prifysgol Emmanuel Ogbonna a Max Munday yn ymuno ag academyddion o sefydliadau addysg uwch Cymru, y DU a thramor yn ogystal ag unigolion sy'n chwarae rhan sylweddol ym mywyd cyhoeddus Cymru.
Gyda'i gilydd, mae'r garfan yn dangos rhagoriaeth barhaus ymchwil yng Nghymru, ei phrifysgolion a'i bywyd deallusol, gyda phob un wedi disgleirio yn ystod digwyddiadau rhyfeddol blwyddyn y pandemig.
Dyw gwaith dau Athro o Ysgol Busnes Caerdydd ddim yn eithriad.
Dros y 18 mis diwethaf, lluniodd yr Athro Emmanuel Ogbonna adroddiad pwysig yn datgelu’r ffactorau cymhleth a hirdymor a gyfrannodd at effaith anghymesur coronafeirws ar gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) Cymru.
Yr Athro Emmanuel Ogbonna oedd cadeirydd is-grŵp y grŵp cynghori arbenigol COVID-19 BAME, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford. Roedd eu hadroddiad yn cynnwys dros 30 o argymhellion i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r risgiau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol a amlygwyd ynddo.
Ers hynny, mae wedi croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ac wedi cyd-gadeirio (gydag Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru) y Grŵp Llywio a ddatblygodd gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar gyfer Cymru gwrth-hiliol.
Yn ystod blwyddyn y pandemig hefyd gwelwyd penllanw prosiect hirsefydlog dan arweiniad yr Athro Max Munday a'i gydweithwyr yn Uned Ymchwil Economi Cymru.
Bu'r Prosiect Manteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn i Fusnesau yn ymchwilio effaith technolegau digidol ar brosesau busnes, y berthynas rhwng busnesau, a chynhyrchion a gwasanaethau yng Nghymru.
Dangosodd y digwyddiad olaf, a gynhaliwyd ar-lein rhwng 2-3 Rhagfyr 2020, sut mae technolegau digidol wedi cefnogi gwydnwch busnesau yn ystod y pandemig a goblygiadau polisi i sbarduno'r adferiad ar ôl y pandemig yng Nghymru.
Ers hynny, mae'r Athro Munday wedi cyd-lunio adroddiad yn archwilio effaith cymuned Lled-ddargludyddion Cyfansawdd CSconnected yng nghanol yr amodau economaidd heriol a ddaeth yn sgil y pandemig, ac mae wedi arwain ar ymchwil yn archwilio sut mae Llywodraeth Cymru wedi cynorthwyo mentrau bach trwy'r pandemig.
Seilir etholiad i'r Gymrodoriaeth ar bleidlais ymhlith y Cymrodyr presennol. Mae'n gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, gyda chryn gystadleuaeth, ac fe’i dyfernir yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau pob enwebai yn eu maes/meysydd perthnasol.
Caiff y Cymrodyr newydd eu derbyn yn ffurfiol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas a gynhelir ddydd Mercher 19 Mai.
Darllenwch y rhestr lawn o Gymrodyr newydd, eu sefydliadau a'u harbenigedd pwnc.
Mae gan y Gymdeithas 595 o Gymrodyr bellach, sy’n unigolion nodedig o bob maes dysg ac yn ffigurau blaenllaw yn eu proffesiwn neu ddisgyblaeth academaidd.