Ewch i’r prif gynnwys

Nod y prosiect gwyddoniaeth dinasyddion yw gwella’r monitro ar ansawdd dŵr ar draws dalgylch afon Gwy

17 Mai 2021

Wye catchment

Bydd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn darparu offer a hyfforddiant i gymunedau lleol yng nghyffiniau dalgylch afon Gwy i wella monitro ansawdd dŵr gan wyddoniaeth dinasyddion.

Mae monitro ansawdd dŵr yn hanfodol er mwyn deall iechyd systemau dŵr croyw, a galluogi camau priodol i gael eu cymryd i’w rheoli.

Mae dinasyddion sy’n wyddonwyr wedi bod yn monitro ansawdd dŵr yn rheolaidd ar draws dalgylch afon Gwy er mwyn ceisio cael hyd i darddiad digwyddiadau ansawdd dŵr gwael.  Er bod hon yn ymdrech gymunedol wych, cyfyngir ar ansawdd y data a gesglir gan grwpiau gwirfoddol annibynnol gan eu hoffer a swm yr hyfforddiant a’r gefnogaeth maen nhw’n eu derbyn.

Yn aml nid yw data gwyddoniaeth dinasyddion wedi cael ei derbyn yn helaeth gan y rhai sydd â’r awdurdod i weithredu i wella ansawdd dŵr.  Gall deall dibynadwyedd citiau monitro sylfaenol a ddefnyddir gan wyddonwyr sy’n ddinasyddion a chyflwyno cyfarpar monitro mwy datblygedig helpu i wella ansawdd setiau data a’u gwneud yn fwy derbyniol.

Bydd Dr Rupert Perkins, Dr Elizabeth Bagshaw, a’r myfyriwr ymchwil Elena von Benzon, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, yn gweithio gydag aelodau o’r gymuned a rhanddeiliaid eraill lleol i wella gweithgareddau gwyddoniaeth dinasyddion ar draws dalgylch afon Gwy.

Bydd y prosiect hwn, a ariannir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yn golygu bod modd gweithio ar y cyd i ddylunio a chyflwyno rhaglen monitro gwyddoniaeth dinasyddion ar gyfer afon Gwy.    Bydd y grwpiau cymunedol sy’n ymwneud â hyn yn gallu dewis y cyfarpar monitro sy’n cyfateb orau i’w gofynion a dylunio rhaglen sy’n addas i’w hanghenion, gydag arweiniad gan arbenigwyr academaidd ac yn y diwydiant.  Bydd y cyfranogwyr yn cael eu hyfforddi a’u cefnogi i ddefnyddio cyfarpar monitro ac yn dilyn arfer gorau i gasglu setiau data gwyddonol dibynadwy.

Yna bydd y data a gesglir yn cael ei ddadansoddi gan Brifysgol Caerdydd a’i rannu mewn fforwm gyda grŵp ehangach o randdeiliaid lleol, gan gynnwys cyrff rheoleiddio.  Y nod yw y bydd hyn yn helpu i wella dealltwriaeth o dueddiadau a phatrymau ansawdd dŵr ar draws dalgylch afon Gwy, ac yn hybu gwerth monitro ansawdd dŵr ar y cyd gan wyddonwyr sy’n ddinasyddion.

Ariannir y prosiect gan NERC er mwyn annog academyddion ac aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru i weithio ar y cyd ar brosiectau ymchwil, a bydd yn rhan o Arddangosiad NERC Cymru 2021.

Os oes gan eich grŵp cymunedol neu eich sefydliad ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r rhaglen fonitro gwyddonwyr sy’n ddinasyddion, cysylltwch â vonbenzonEM@cardiff.ac.uk

Rhannu’r stori hon