Astudiaeth enetig fwyaf o anhwylder deubegynol yn rhoi cipolwg newydd ar ei fioleg a thriniaethau posibl newydd iddo
17 Mai 2021
Mae astudiaeth ddiweddar wedi dod â Gweithgor Deubegynol y Consortiwm Genomeg Seiciatrig un cam yn nes at ddeall niwrobioleg anhwylder deubegynol.
Mae'r grŵp ymchwil yn ymdrechu i ddeall y geneteg y tu ôl i anhwylder deubegynol yn well, sy'n anhwylder meddwl cymhleth iawn lle mae unigolion yn profi hwyliau uchel ac isel iawn. Gall hyn arwain at ganlyniadau sylweddol ar ymddygiad, dysgu a chof, y gallu i weithio, a pherthnasau. Dywedir ei fod yn effeithio ar tua 40 i 50 miliwn o bobl ledled y byd.
Esboniodd Dr Arianna Di Florio, ymchwilydd arweiniol yr astudiaeth yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd: "DNA yw'r llawlyfr cyfarwyddiadau y mae eich corff yn ei ddefnyddio i ddatblygu a gweithredu. Mae DNA pob unigolyn yn amrywio ychydig oddi wrth bawb arall a dyma sy'n ein gwneud ni'n wahanol."
Astudiodd Dr Di Florio a'i chyd-ymchwilwyr dros 7.5 miliwn o amrywiadau cyffredin yn nilyniant DNA bron i 415,000 o bobl, ac roedd gan dros 40,000 ohonynt anhwylder deubegynol.
Drwy gymharu'r amrywiadau DNA mewn pobl ag anhwylder deubegynol a hebddo, nododd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Nature Genetics, amrywiadau sy'n cyfeirio at systemau o fewn yr ymennydd sy'n bwysig ar gyfer cyfathrebu rhwng niwronau.
Niwronau yw'r celloedd sy'n gyfrifol am gario gwybodaeth drwy'r ymennydd a'r system nerfol fel y gallwn ymateb i'n hamgylchedd.
Parhaodd Dr Di Florio: "Canfu'r ymchwil hon fwy na dwbl nifer yr amrywiadau DNA sy'n dylanwadu ar risg rhywun i'r anhwylder ers ein papur diwethaf. Felly, rydym gam arall yn nes at ddeall niwrobioleg anhwylder deubegynol a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar wella hyn yn ein gwaith yn y dyfodol."
Gall niwronau gyfathrebu'n effeithiol drwy ddefnyddio calsiwm. Heb galsiwm yn llifo i'r gell drwy sianeli calsiwm (proses a elwir yn signalau calsiwm), ni fyddai niwronau'n gallu cynhyrchu'r signal trydanol angenrheidiol i gyfathrebu â'i gilydd.
Ychwanegodd yr Athro Andrew McQuillin, a oedd yn arwain cangen Coleg Prifysgol Llundain o'r astudiaeth: "Canfu'r astudiaeth hon amrywiadau DNA sy'n gysylltiedig ag anhwylder deubegynol sy'n berthnasol mewn cyfathrebu niwronau a signalau calsiwm. Mae hyn yn cyfeirio at y posibilrwydd o ailddefnyddio cyffuriau a ddefnyddir eisoes ar gyfer y system gylchredol ar gyfer triniaethau anhwylder deubegynol."
Fodd bynnag, nid yw effeithiolrwydd gwirioneddol y cyffuriau hyn ar gyfer anhwylder deubegynol yn hysbys eto ac mae angen ymchwil bellach cyn y gellir gwneud unrhyw argymhellion. Nodwyd amrywiadau genetig posibl eraill y gellid eu targedu gan gyffuriau a gallent fod o ddiddordeb i ymchwilwyr wrth symud ymlaen.
Canfu'r astudiaeth hefyd orgyffwrdd rhwng bioleg anhwylder deubegynol ac anhwylderau seiciatrig eraill fel iselder a sgitsoffrenia ac, i raddau llai, arferion cysgu, lefel addysg, a'r defnydd o alcohol a sylweddau.
"Mae ein canfyddiadau'n rhoi gwybodaeth bwysig i ymchwilwyr ei hystyried ar gyfer ystod eang o astudiaethau dilynol, o fecanweithiau biolegol anhwylder deubegynol i'w ddiffiniad ac opsiynau triniaeth," casglodd yr Athro McQuillin.
Casglwyd y samplau DNA anhwylder deubegynol gan ymchwilwyr o fwy na 200 o sefydliadau ledled y byd. Cymerwyd dros 6,000 o samplau o un o'r casgliadau parhaus mwyaf a mwyaf sefydledig o samplau anhwylder deubegynol, sef y Rhwydwaith Ymchwil Anhwylder Deubegynol yng Nghaerwrangon/Caerdydd (BDRN).
Dywedodd un o'r ymchwilwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Caerwrangon, yr Athro Lisa Jones, am yr ymchwil: "Y Rhwydwaith Ymchwil Anhwylder Deubegynol yw'r cyfrannwr mwyaf o achosion deubegynol i'r dadansoddiad byd-eang nodedig hwn ac mae arnom ddyled i bawb sydd wedi gwirfoddoli i helpu gyda’r rhwydwaith dros y 25 mlynedd diwethaf."
Bydd y Consortiwm Genomeg Seiciatrig yn parhau i ddatblygu’r gwaith hwn gydag achosion a dadansoddiadau ychwanegol o'r data, gan symud, gyda gobaith, tuag at well dealltwriaeth o'r anhwylder cymhleth.
Darllenwch y papur llawn: Genome-wide association study of over 40,000 bipolar disorder cases provides new insights into the underlying biology