Enciliad haenau iâ’r Antarctig o bosibl yn mynd i achosi adwaith gadwyn
14 Mai 2021
Roedd haen iâ’r Antarctig hyd yn oed yn fwy ansefydlog yn y gorffennol nag a dybiwyd o’r blaen ac, ar adegau, efallai wedi dod yn agos at gwympo, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw yn Nature Geoscience, dywedodd ymchwilwyr i’r hinsawdd o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, mewn byd cynhesach, y bydd dadorchuddio’r tir o dan yr haen iâ, wrth i’r haen iâ encilio, yn arwain at fwyfwy o law ar Antarctica. Dywedodd yr ymchwilwyr hefyd y gallai hyn ysgogi prosesau sy’n golygu bod rhagor o iâ’n cael ei golli’n gyflymach.
Mae'r ymchwil yn seiliedig ar fodelu’r hinsawdd yng nghanol cyfnod y Mïosen (13 i 17 miliwn o flynyddoedd yn ôl) a chymharu data ar y cyfnod hwn, pan gyrhaeddodd carbon deuocsid a thymereddau byd-eang lefelau tebyg i’r rhai a ddisgwylir erbyn diwedd y ganrif hon.
Yng nghanol cyfnod cynnes y Mïosen, cofnodwyd newidiadau anarferol o fawr yn ôl ac ymlaen yn nhymereddau dyfnderoedd y môr.
Mae'r astudiaeth yn dangos mai amrywiadau yn yr arwynebedd sydd o dan yr haen iâ oedd un o’r prif bethau a achosodd i dymereddau’r dyfnderoedd newid mor ddramatig. Nodwyd bod amrywiadau yng nghyfaint yr iâ’n llawer llai pwysig.
Gwnaeth amrywiadau yn safle’r Ddaear mewn perthynas â'r haul achosi i'r haen iâ dyfu ac encilio. Arweiniodd hyn at newid patrymau tywydd, a ysgogodd brosesau sy’n gallu golygu bod iâ’n cael ei golli neu ei ennill yn gyflymach.
Gall cawodydd ar yr haen iâ achosi iddi dorri a thoddi. Hefyd, gall dŵr croyw ychwanegol redeg oddi ar y cyfandir a all, yn ei dro, achosi i dymereddau’r dyfnderoedd godi. Gallai hyn gael effaith ar iâ’r Antarctig oddi tanodd.
Mae canfyddiadau'r astudiaeth newydd yn awgrymu bod haen iâ'r Antarctig wedi encilio'n sylweddol yng nghanol cyfnod y Mïosen a sefydlogi ar ôl hynny pan ddaeth y cyfnod cynnes i ben. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu hefyd y byddai’r prosesau sy’n ysgogi mwyfwy o law yn y dyfodol yn lleihau gallu system yr hinsawdd i gynnal haen iâ fawr yr Antarctig.
Dywedodd yr Athro Carrie Lear o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, a ddyfeisiodd y prosiect gyntaf: “Mae'r astudiaeth hon yn awgrymu, yn ystod cyfnod cynnes tua 15 miliwn o flynyddoedd yn ôl, bod haen iâ'r Antarctig Fïosenaidd wedi gallu tyfu ac encilio’n sylweddol ar draws y cyfandir.
“Mae hyn yn achos pryder, ond mae angen gwneud rhagor o ymchwil i nodi beth yn union y mae hyn yn ei olygu i ddyfodol tymor hir haen iâ’r Antarctig heddiw.”
Dywedodd prif awdur yr astudiaeth, Dr Catherine Bradshaw o'r Swyddfa Dywydd a'r Sefydliad Systemau Byd-eang ym Mhrifysgol Caerwysg: “Pan fydd haen iâ’n toddi, mae'r tir sydd newydd ei ddadorchuddio’n llai adlewyrchol, ac mae'r tymereddau lleol yn codi.
“Yn y bôn, os caiff mwy o dir ei ddadorchuddio ar Antarctica, mae'n dod yn anoddach i haen iâ fawr ailffurfio. Pe na bai’r Ddaear wedi bod mewn safleoedd orbitol ffafriol yng nghanol cyfnod y Mïosen, efallai y byddai'r haen iâ wedi cwympo bryd hynny.”
Fodd bynnag, mae'r tîm yn sylweddoli nad yw amodau heddiw a’r amodau yng nghanol cyfnod y Mïosen yn union yr un fath, ac nid yw’r model a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth yn cynnwys effaith adborth o’r cylch carbon a’r haen iâ ei hun.
Cafodd yr astudiaeth ei hariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a Chyngor Ymchwil Sweden a’i harwain gan y Swyddfa Dywydd, ochr yn ochr â Phrifysgolion Caerwysg, Bryste, Caerdydd a Stockholm, NORCE a Chanolfan Bjerknes ar gyfer Ymchwil i’r Hinsawdd.