Darlith ysgogol am ddysgu gwyddoniaeth gan un o enillwyr Gwobr Nobel
21 Mai 2021
Fe roes un o enillwyr Gwobr Nobel, yr Athro Carl Wieman (Prifysgol Stanford), ddarlith ddiddorol fis Ebrill yn rhan o’r gyfres ar-lein roedd y Dr Andrea Jiménez Dalmaroni (Caerdydd) wedi’i threfnu: ‘Ymchwil Prifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain i Addysg am STEM’.
Nod y ddarlith gyffrous, Taking a Scientific Approach to Teaching Science, oedd ystyried ffyrdd o drawsffurfio addysg am wyddoniaeth yn sgîl canlyniadau ymchwil i’r dysgu a’r addysgu fel ei gilydd.
Meddai’r Athro Wieman,
“Trwy arbrofion ynghylch damcaniaethau ac arferion, maegwyddoniaeth wedi datblygu’n gyflym dros y 500 mlynedd diwethaf. Ar y llaw arall, mae addysg am wyddoniaeth yn parhau yn yr Oesoedd Canol trwy fod yn gaeth i draddodiadau a dogma.
Bellach, mae ymchwil am sut mae pobl yn dysgu yn datgelu ffyrdd mwy effeithiol o addysgu a gwerthuso o’u cymharu â’r hyn sy’n digwydd yn y dosbarth gwyddoniaeth traddodiadol ar hyn o bryd.
Mae’r ymchwil honno’n arwain at ffordd newydd o ddysgu ac addysgu fel y bydd addysg berthnasol ac effeithiol am wyddoniaeth ar gael i bob myfyriwr yn ôl anghenion yr 21ain ganrif.”
Yn ystod y ddarlith, soniodd yr Athro Wieman am yr ymchwil honno gan ddangos sut y gall addysgu fod yn fwy boddhaol i fyfyrwyr ac athrawon fel ei gilydd yn ogystal â thrafod ffyrdd mwy ystyrlon ac effeithiol o fesur ansawdd yr addysgu.
Y Dr Andrea Jiménez Dalmaroni, Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, drefnodd gyfres o weminarau, Ymchwil Prifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain i Addysg am STEM, a gwahodd yr Athro Wieman i roi’r ddarlith bwysig.
Meddai’r Dr Jiménez Dalmaroni,
“Tynnodd yr Athro Carl Wieman sylw at wir angen adolygu ein harferion addysgu a chyflwyno rhagor o arloesi addysgol sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth yng nghwrícwlwm y brifysgol.
Mae’n hanfodol helpu adrannau STEM i lunio ymchwil i addysg ym mhob maes. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y gyfres hon yn parhau i ysgogi cydweithwyr sy’n anelu at y nod hwnnw.”
Diben cyfres Ymchwil Prifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain i Addysg am STEM yw helpu academyddion i elwa ar arbenigedd ym maes ymchwil i addysg STEM ac, o ganlyniad, rhoi cyfle i drafod y datblygiadau diweddaraf o ran dysgu pynciau STEM yn ôl tystiolaeth.
Cylchoedd addysg uwch Sefydliad Ffiseg a Chymdeithas Frenhinol Cemeg sy’n noddi’r gyfres.
Mae Carl Wieman yn athro ffiseg ac addysg ym Mhrifysgol Stanford. Mae wedi cynnal llawer o ymchwil arbrofol ynglŷn â ffiseg atomig (Gwobr Nobel ym maes ffiseg, 2001) ac addysg prifysgolion am wyddoniaeth a pheirianneg (Athro’r Flwyddyn Sefydliad Carnegie, 2004). Sefydlodd PhET, gwefan ryngweithiol sy’n cael ei defnyddio 100 miliwn o weithiau bob blwyddyn i ddysgu gwyddoniaeth, yn ogystal â chyhoeddi llyfr o’r enw Improving How Universities Teach Science yn ddiweddar. Mae’n astudio arbenigedd a datrys problemau ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg, a sut mae mesur a dysgu hynny’n well.
Er iddo ganolbwyntio ar ddysgu gwyddoniaeth a pheirianneg i israddedigion yn ystod ei ddarlith, dywedodd yr Athro Wieman fod yr egwyddorion sylfaenol wedi’u pennu trwy astudio datblygiad cyffredinol arbenigedd a bod modd eu defnyddio’n ehangach o lawer.