Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabod myfyrwyr PhD am ragoriaeth mewn cymorth addysgu a dysgu

13 Mai 2021

Photos of Joseph and Rhiannon
Joseph Askey and Rhiannon Ryder

Mae Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd yn dathlu ei myfyrwyr PhD cyntaf i gyflawni statws 'Cymrawd Cysylltiol yr Academi Addysg Uwch' (AFHEA). Derbyniodd Joseph Askey a Rhiannon Ryder yr acolâd i gydnabod eu rhagoriaeth mewn cymorth addysgu a dysgu.

Yma yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, mae myfyrwyr PhD yn aelodau hynod o werthfawr o'r timau addysgu a dysgu israddedig ac ôl-raddedig.

Yn ogystal â gweithredu fel marcwyr a dangoswyr, maen nhw hefyd yn cyflawni rôl hanfodol fel arweinwyr grŵp ar gyfer dysgu ar sail prosiect, fel mentoriaid a modelau rôl.

Fel rhan o'n hymrwymiad i'n myfyrwyr PhD, rydym ni'n cynnig cefnogaeth strwythuredig wrth iddyn nhw ddatblygu’n ymarferwyr dysgu ac addysgu ac yn cynorthwyo'r rheini sy'n dymuno cael statws Cymrawd Cysylltiol.

I gael cydnabyddiaeth fel Cymrawd Cysylltiol, rhaid i unigolyn allu dangos dealltwriaeth ac effeithiolrwydd o ran ymarfer a chefnogi dysgu ac addysgu, a dyfernir statws Cymrawd Cysylltiol dim ond ar ôl gwerthusiad allanol trylwyr o Adroddiad o Ymarfer Proffesiynol yr unigolyn.

Mae Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Peter Smowton yn llongyfarch Joseph a Rhiannon ar eu llwyddiant gydag AFHEA,

"mae'r Cymrodoriaethau Cysylltiol hyn yn gydnabyddiaeth wych o rôl hanfodol ein myfyrwyr ôl-raddedig yn ein tîm addysgu, a'r datblygiad proffesiynol mae Rhiannon a Joseph yn amlwg wedi elwa ohono fel rhan o'u gwaith. Gobeithio y bydd mwy o fyfyrwyr ôl-raddedig yn parhau i dderbyn cydnabyddiaeth o'r fath yn y dyfodol."

Joseph Askey AFHEA

Ymgeisiodd Joseph yn llwyddiannus am statws AFHEA yn 2019.

Ag yntau'n fyfyriwr MSc Ffiseg yn ystod Blwyddyn Academaidd 2017/18, arhosodd ymlaen fel myfyriwr PhD.

Mae Joseph wedi bod yn aelod allweddol o'r Tîm Dysgu ac Addysgu Ôl-raddedig ers 2018/19, wedi gweithredu fel arweinydd prosiect micro, cynllunio a chyflwyno sesiynau cymorth lefel meistr ar sgiliau sylfaenol fel codio, LaTeX, a GitHub, ac wedi ymwneud yn uniongyrchol â chynllunio modiwlau a rhaglenni gyda'r Cydlynwyr Rhaglen MSc.

Dywed y Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Richard Lewis,

"Mae Joseph yn rhoi sylw rhyfeddol i fanylion, mae'n barod i fynd y tu hwnt i lefel arferol arddangosydd PhD, ac yn barhaus wedi dangos talent naturiol ar gyfer ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu gweithredol.  Mae myfyrwyr wedi sôn wrthyf i sawl tro eu bod yn ystyried Joseph yn fodel rôl."

Dywedodd Joseph wrthym ni,

"roedd myfyrio ar 2 flynedd o ymarfer addysgu'n heriol, yn enwedig gan fy mod newydd orffen fy astudiaethau MSc. Fodd bynnag, mae'r broses y bûm i drwyddi wedi cyfnerthu fy ngwybodaeth mewn addysgu, gwella fy hyder yn fy ngallu i addysgu, a chynnig llwyfan i fi gydnabod a pharhau fy natblygiad proffesiynol at ddod yn ymarferydd addysgol. Byddwn yn ddi-os yn argymell hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn Addysg Uwch".

Rhiannon Ryder AFHEA

Dechreuodd Rhiannon ymchwil mewn addysg ffiseg yn 2018, fel rhan o'i Phrosiect Ffiseg Blwyddyn 3.

Bu'n ymchwilio i ddelweddu 3D i gefnogi dysgu myfyrwyr a chynlluniodd a chyflwynodd ymyriadau addysgu'n seiliedig ar ddysgu gweithredol, gan sicrhau gradd dosbarth cyntaf.

Yn 2019, daeth Rhiannon yn gynorthwyydd addysgu ar ddau fodiwl dysgu gweithredol arloesol, Optics a Pathways to Success in the Physics Workplace. Cafodd brofiad o ddysgu cydweithredol, a hefyd o gefnogi myfyrwyr gyda hunanhyder a dysgu hunangyfeiriedig. Yn sgil y gwaith hwn dyfarnwyd AFHEA iddi ym mis Mawrth 2021.

Dywedodd Dr Andrea Jiménez Dalmaroni, Dirprwy Bennaeth y Grŵp Ymchwil Addysg Ffiseg,

"Mae Rhiannon wedi dangos ymrwymiad cryf i gefnogi pob agwedd ar ddysgu myfyrwyr. Mae'n trosi dealltwriaeth o'r ffordd mae myfyrwyr yn dysgu'n rhwydd i'w haddysgu, gan addasu ac adeiladu cymorth myfyrwyr yn fedrus iawn. Mae Rhiannon yn gynorthwyydd addysgu rhagorol ac yn ymarferydd myfyriol gofalgar iawn."

Dywedodd Rhiannon, sydd ar hyn o bryd yn fyfyriwr PhD yn gweithio mewn systemau ynni tanwyddau wedi'u datgarboneiddio,

"Rwy'n hapus iawn i gael y dyfarniad AFHEA.

Helpodd gwaith fel arddangosydd fi i ddeall pwysigrwydd myfyrio mewn amrywiol senarios addysgol a chymhwyso hyn i fy natblygiad personol a phroffesiynol.

Rwy'n ddiolchgar am y profiad unigryw a gefais i o arddangos dysgu gweithredol.

Heb os, cryfhaodd y profiad hwn fy nghais AFHEA a bydd yn hynod o werthfawr yn y fy ngyrfa yn y dyfodol. Allaf i ddim dychmygu bod yn arddangoswr mewn dosbarth heb ddysgu cydweithredol a thrafodaethau deinamig!"

Llongyfarchiadau unwaith eto i Joseph a Rhiannon!

Rhannu’r stori hon