Cyhoeddiad newydd ar ganolbwyntio mewn sgyrsiau fideo
13 Mai 2021
Cwblhaodd Dorottya Cserző ei hymchwil doethurol ar arferion sgwrsio fideo yn 2019. Mae hi wedi cyhoeddi ei chanfyddiadau mewn dwy bennod llyfr (2016, 2020) a bellach erthygl yn y cyfnodolyn Multimodal Communication.
Mae'r erthygl yn seiliedig ar ddata o'r oes cyn COVID-19, ond mae'n adlewyrchu ar y newidiadau diweddar ar arferion sgwrsio fideo. Mae'r dadansoddiad yn archwilio'r hyn y mae'n ei olygu i 'dalu sylw' wrth gyfathrebu trwy sgwrsio fideo, a sut mae hyn yn cymharu â dulliau cyfathrebu eraill. Dywed Dorottya:
"Mae'r papur hwn yn archwilio'r defnydd o sgwrsio fideo (VC) gan ganolbwyntio ar ddisgwyliadau a llunio sylw. Mae'n seiliedig ar ddadansoddiadau meicro o sesiynau VC a gofnodwyd (a gasglwyd rhwng 2013 a 2015) a dadansoddiad thematig o 29 cyfweliad lled-strwythuredig am arferion VC (a gynhaliwyd yn 2014 a 2015).
Gan adeiladu ar ddadansoddiad gweithredu/rhyngweithio amlfodd a chysyniadau allweddol o ddadansoddiad nexus, rwy'n archwilio sut mae sylw â ffocws yn cael ei greu mewn VCs a sut mae'r arferion hyn yn cael eu llunio gan brofiadau gyda ffurfiau eraill o gyfathrebu. Rwy'n dangos, yn wahanol i fathau eraill o gyfathrebu o bell, bod cyfarfodydd VC nodweddiadol yn gofyn am sylw llawn y person. Gall hwn gael ei fformiwleiddio fel gwireb rhyngweithiol: canolbwyntio ar y rhyngweithio VC.
Rwy'n trafod sut y gellir plethu gweithgareddau eraill â VC ac yn archwilio'r arfer eithriadol o ddod ar draws VC sydd wedi para dros gyfnod (fideo sy’n recordio drwy’r amser). Rwy’n dadlau fod y rhai sy’n cymryd rhan yn defnyddio'r rheol hon wrth ddilyn camau gweithredu eraill, a bod cyfarfyddiadau sydd wedi para dros gyfnod yn cael sylw gwahanol i gyfarfyddiadau VC â ffocws nodweddiadol.
Yn olaf, rwy'n dadlau bod VC yn addas ar gyfer cydberthnasau agos oherwydd bod angen canolbwyntio’n llawn."