Ewch i’r prif gynnwys

Trais difrifol yn gostwng draean

12 Mai 2021

Gostyngodd lefelau trais difrifol yng Nghymru a Lloegr bron i draean yn 2020, gan adlewyrchu cyfnodau clo COVID-19 a chyfyngiadau eraill.

Mae dadansoddiad gan Grŵp Ymchwilio i Drais Prifysgol Caerdydd yn dangos bod 56,653 yn llai o bobl wedi cael triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau cysylltiedig â thrais yn 2020 o gymharu â 2019.

“O safbwynt trais, 2020 oedd y flwyddyn fwyaf diogel erioed,” meddai’r Athro Jonathan Shepherd, cyd-awdur Trais yng Nghymru a Lloegr yn 2020, a gyhoeddwyd heddiw.

Dangosodd data a gasglwyd o 133 o unedau brys ysbytai’r GIG fod 119,111 o bobl wedi cael triniaeth ar gyfer anafiadau cysylltiedig â thrais yn 2020, o gymharu â 175,764 yn 2019.

Gostyngodd triniaeth frys mewn ysbyty ar gyfer anafiadau treisgar ymhlith dynion a menywod 33% a 29% yn y drefn honno yn 2020 - y gostyngiad mwyaf ers adroddiad cyntaf Prifysgol Caerdydd ar drais o safbwynt y GIG 20 mlynedd yn ôl.

Cafwyd gostyngiadau ym mhob grŵp oedran ac roeddent ar eu mwyaf (66%) ymhlith plant o dan 11 oed.

“Nid yw’r darlun llawn ar drais domestig yn glir o hyd,” meddai’r Athro Shepherd, a arloesodd yn y defnydd o ddata anafiadau i fesur troseddau treisgar.

“Fe wnaeth yr heddlu yng Nghymru a Lloegr gofnodi 842,813 o droseddau yn ymwneud â thrais domestig yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2020, ond nid yw llawer o droseddau o'r fath yn cael eu hadrodd. O ran unedau damweiniau ac achosion brys, yng Nghaerdydd, nad yw'n nodweddiadol o bosibl, ni newidiodd lefelau trais yn y cartref o'u cymharu â 2019.”

“Dynion 18-30 oed sy’n parhau i wynebu'r risg fwyaf o gael anaf treisgar o hyd. Yn 2020, roedd dynion ddwywaith yn fwy tebygol o dderbyn triniaeth frys mewn ysbyty o’u cymharu â menywod.”

Roedd gan anafiadau treisgar oedd yn ddigon difrifol i arwain at driniaeth frys mewn ysbyty yn 2020 gysylltiad agos â gosod, tynhau, llacio a chodi cyfyngiadau COVID-19.

“Roedd y cyfnodau clo, yn enwedig y cyfnod clo a dechreuodd ar 23 Mawrth 2020, yn gysylltiedig â gostyngiadau mawr mewn lefelau trais. Roedd cau tafarndai, clybiau a lleoliadau cymdeithasol eraill cyn hyn hefyd yn gysylltiedig â gostyngiadau sylweddol. Ar ôl pob cyfnod o lacio'r cyfyngiadau wedyn, roedd lefelau trais yn cynyddu; ac roedd pob achos o wneud y cyfyngiadau'n fwy llym yn yr hydref yn gysylltiedig â gostyngiadau."

"Roedd lefelau trais ar eu huchaf fis Awst 2020, gan gyrraedd lefelau a welwyd cyn y pandemig," meddai'r Athro Shepherd.

Yn ôl y mesur dibynadwy hwn o niwed difrifol, ar wahân i’r blynyddoedd rhwng 2014 a 2017 pan arhosodd lefelau trais yn gyson a phan fu cynnydd yn lefelau troseddau cyllyll, gwelwyd gostyngiad yn lefelau trais bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr er 2001. Rhwng 2010 a 2019, er enghraifft, cafodd 137,269 yn llai o bobl eu hanafu a gafodd eu trin mewn adrannau brys. Roedd hyn o gymharu â 313,033 yn flaenorol, sy’n ostyngiad o 43.8%. Dros y ddau ddegawd, roedd y niferoedd yn 2001 yn cyfateb i 461,759, ac roedd wedi gostwng i 119,111 yn 2020. Mae hyn yn ostyngiad o 74%.

Mae'r 20fed adroddiad blynyddol hwn ar drais difrifol yng Nghymru a Lloegr yn cynnwys data o'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwyliadwriaeth Trais (NVSN), dan arweiniad yr Athro Vaseekaran Sivarajasingam ym Mhrifysgol Caerdydd, o 133 o Adrannau Brys ysbytai GIG ardystiedig, Unedau Mân Anafiadau a Chanolfannau Galw Heibio.

Gan edrych ar drais yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, dywedodd yr Athro Shepherd fod datblygiadau mewn cydweithredu rhyngasiantaethol, rhannu a dadansoddi data, plismona wedi'i dargedu a gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng amser real, yn allweddol er mwyn atal. “Mae'r ffactorau hyn i gyd yn gallu cael eu heffeithio pan mae’r economi wedi'i hymestyn; mae angen rhoi sylw cyson iddyn nhw” meddai. “Trwy’r holl ddulliau hyn, gellir creu trefi a dinasoedd bywiog a mwy diogel.”

Rhannu’r stori hon