Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr o Gaerdydd yn cyrraedd rownd derbyn cystadleuaeth Meddwl Cyfreithiol

11 Mai 2021

Edeh Gharibi
Edeh Gharibi

Mae hyrwyddwr croestoriadedd o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi cael ei henwi fel un sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth genedlaethol ym maes y gyfraith .

Bu Edeh Gharibi, sy’n 19 oed ac yn ei hail flwyddyn fel myfyriwr y gyfraith, yn fuddugol yn erbyn myfyrwyr y gyfraith a hyfforddeion cyfreithiol o bob rhan o’r wlad trwy gael ei henwi’n un o ddeg sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Meddwl Cyfreithiol y Dyfodol Llinell Gymorth National Accident eleni.  Mae'r gystadleuaeth wedi cael ei chynnal ers saith mlynedd ac mae enillwyr yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i fod yn fargyfreithwyr a chyfreithwyr.

Eleni, derbyniwyd y nifer uchaf erioed o gynigion ar gyfer y gystadleuaeth ar sail traethawd ond roedd Edeh, sy'n breuddwydio am arbenigo mewn cyfraith gwahaniaethu, yn benodol o ran ethnigrwydd a hil, yn sefyll allan yn erbyn ei chystadleuwyr. Roedd cais Edeh yn beirniadu’r ddeddfwriaeth gyfredol a’i methiant i amddiffyn y rhai sy’n wynebu “gwahaniaethu lluosog” oherwydd eu hunaniaethau cymdeithasol a gwleidyddol. Dadleuodd Edeh fod angen diwygio deddfwriaeth gyfredol y Deyrnas Unedig yn sylweddol.

“Mae llawer o bobl yn cael eu gadael ar ôl o ran amddiffyniad. Rwyf fi am sicrhau bod profiadau a hunaniaethau pawb yn cael eu gwarchod. Mae hwn yn fater personol i mi oherwydd fy mod, fel benyw liw sy’n gobeithio gweithio ym myd y gyfraith yn y dyfodol, yn dymuno cael fy amddiffyn yn y gweithle ac os nad wyf yn cael fy amddiffyn erbyn i mi gyrraedd yno, rwyf am gyflawni’r newid hwnnw fy hun."

Wrth sôn am ei chyflawniad, dywedodd Edeh: “Ces i fy synnu’n fawr, ond roeddwn i’n hynod werthfawrogol o gael y cyfle hwn i allu siarad am yr hyn rwy'n teimlo'n angerddol yn ei gylch ac i gael fy nghydnabod fel hyn."

Watch Edeh's application video on YouTube

Dywedodd Will Herbertson, Cyfarwyddwr Marchnata a Strategaeth, Grŵp Llinell Gymorth National Accident: “Mae Edeh yn tynnu sylw’n gryno at ei phryderon ynghylch cyfyngiadau’r Ddeddf Cydraddoldeb a’i huchelgais i fynd i’r afael â gwahaniaethu. Rydym yn dymuno pob lwc iddi ar gyfer y rownd derfynol. ”

Dywedodd Stewart Field, Pennaeth y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth: “Roeddem wrth ein bodd yn clywed bod Edeh wedi cyrraedd rownd derfynol y gwobrau eleni. Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i fyfyriwr y gyfraith yng Nghaerdydd gyrraedd y pwynt hwn yn y gystadleuaeth, ac mae hynny’n tystio i safon ein myfyrwyr a'u sgiliau meddwl cyfreithiol. Rwy’n dymuno pob lwc iddi yn y gystadleuaeth ac yn wir ei gyrfa gyfreithiol yn y dyfodol. ”

Bydd enillydd Meddwl Cyfreithiol y Dyfodol 2021 yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach y mis yma.  Bydd yr enillydd yn cael gwobr o £2,000 ac yn cael ei fentora gan gyfreithwyr profiadol.

Rhannu’r stori hon