Ewch i’r prif gynnwys

Darluniadau botanegol un o Athrawon Prifysgol Caerdydd yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Royal Worcester

11 Mai 2021

Jacaranda seed pods
Siohhán Bácaoir

Bydd tri o ddarluniadau’r Athro Susan Baker, sy’n gweithio yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, yn cael eu harddangos mewn arddangosfa newydd sy’n agor ar 27 Mai 2021.

Mae Cymdeithas Darlunio Botanegol Swydd Gaerloyw ac Amgueddfa Royal Worcester yn gweithio mewn partneriaeth i greu’r arddangosfa, sy’n cael ei hariannu gan Wobr Celf Fotanegol 2020, gwobr arbennig a roddwyd gan Sefydliad Finnis Scott.

Craidd yr arddangosfa fydd gwaith aelodau talentog Cymdeithas Darlunio Botanegol Swydd Gaerloyw, a fydd yn cael ei arddangos ochr yn ochr â chasgliadau bendigedig yr amgueddfa o borslen ac archifau gwreiddiol.

sitka spruce cone
Siohhán Bácaoir
split spring onion
Siohhán Bácaoir

Dim ond yn ddiweddar y mae Susan, sy'n arwyddo ei gwaith â’i henw Gwyddelig, Siobhán, wedi dechrau paentio, a sylweddolodd yn gyflym ei bod yn hoff iawn o gelf fotanegol. Mae defnyddio dyfrlliwiau a phensiliau graffit i ddangos amrywiaeth, cymhlethdod a harddwch planhigion wedi dangos iddi ffordd newydd o werthfawrogi a pharchu natur.

Dywedodd Rachel Needham, Ysgrifennydd Anrhydeddus Cymdeithas Darlunio Botanegol Swydd Gaerloyw: “Rydym yn falch o fod yn cydweithio â'n partneriaid yn Amgueddfa Royal Worcester i greu'r arddangosfa newydd a chyffrous hon, 'Botanical Treasures'. Rydym wedi cael croeso cynnes y tu ôl i’r llenni i archwilio’r amgueddfa, ei harchif ardderchog o waith celf a’i llyfrgell ddylunio drawiadol. Rydym wedi cael ein hysbrydoli gan bopeth rydym wedi’i weld ac yn creu gweithiau newydd i’w harddangos drwy’r amgueddfa gyfan. Byddwnyn dangos ein gwaith diweddaraf, wrth ddathlu sgìl Stuart Lafford, tiwtor celf poblogaidd.”

scarlet elf cup
Siohhán Bácaoir

Mae 'Botanical Treasures – inspiration from nature in porcelain and on paper' yn agor ar 27 Mai 2021 gyda rhaglen o weithdai, arddangosiadau a chyflwyniadau i’r teulu.

Rhannu’r stori hon