‘Initiate’ - cwmni newydd un o raddedigion Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Ross Hartland.
10 Mai 2021
Mae un o un o raddedigion Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Ross Hartland, newydd sefydlu cwmni o’r enw ‘Initiate’ ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae Ross yn ddiolchgar i Ysgol Pensaernïaeth Cymru am feithrin hyder trwy gyngor a chymorth ac fe gawson ni gyfle i’w holi am ei gyfnod yn yr Ysgol a’i fenter newydd.
Beth wnaethoch chi yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac oedd o fudd ichi?
Astudiais RIBA I, II a III, (BSc (Anrh.), MArch a PgDip Ymarfer Proffesiynol yn yr Ysgol gan ddechrau Rhan 1 RIBA fis Medi 2013 a chwblhau Rhan III fis Mehefin 2020.
Mwynheuais y cyfnod yn yr Ysgol yn fawr - saith mlynedd ymestynnol, digon o waith anodd ond taith ddiddorol a buddiol dros ben sydd wedi rhoi cymaint imi. Ymunais yn 2013 yn llawn brwdfrydedd am greu a gwneud pethau ond heb wybod llawer am natur pensaernïaeth, gan ymgymhwyso’n bensaer yn 2020 ar ôl cwrdd â chynifer o gyfeillion, cydweithwyr a mentoriaid ar hyd y ffordd.
Oedd unrhyw beth arbennig o dda am yr Ysgol, ei chyrsiau a’i dulliau addysgu?
Roedd y cyrsiau’n gytbwys iawn gan annog pobl i lunio cynigion creadigol iawn a chyflwyno’r dechnoleg bensaernïol, yr hanes a’r agweddau damcaniaethol sy’n ategu pensaernïaeth ystyrlon a chynaladwy. At hynny, trwy ei deithiau astudio blynyddol, rhoes yr Ysgol gyfleoedd i’n carfan ni fynd i bedwar ban byd i ddysgu am ddiwylliannau, pensaernïaeth a hanes ar lawr gwlad. Ymwelais â Pharis, Limoges, Porto, Lisbon, Awstria, Barcelona a Rhufain. Cydais yn llwyr ym mhopeth roedd yr Ysgol yn ei gynnig - roedd yn dda gyda fi weld bod cymaint i’w ddysgu a rhoes yr amrywiaeth helaeth o ddysg hyder imi ddechrau fy ngyrfa.
Bydd pawb sy’n fy adnabod yn gwybod imi hoffi pwyslais yr Ysgol ar gynhyrchu pethau - treuliais y rhan fwyaf o’m hamser stiwdio yn y gweithdy modelu a’r labordy llunio. Pan oeddwn i’n blentyn, byddwn i’n llunio pethau yn aml ac, felly, roeddwn i’n hoff iawn o greu modelau cywrain yn yr Ysgol. Byddai’r Ysgol yn ein hannog i lunio modelau o sawl maint i brofi syniadau, profiad, goleuni a chysgodion fel y gallwn ni ddeall faint o bethau a ddaw at ei gilydd mewn adeilad o bwys. Mae’r medrau modelu a ddysgais yn yr Ysgol yn rhan bwysig o’r dylunio yn fy nghwmni newydd, Initiate.
Sut mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi dylanwadu ar eich gyrfa?
Mae’r Ysgol wedi dylanwadu ar fy ngyrfa mewn sawl ffordd!
Mae’n wych bod cyrsiau’r Ysgol yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddewis amrywiaeth helaeth o unedau dylunio sy’n berthnasol i faterion yr 21ainganrif ac yn gadael i egin benseiri ddilyn eu diddordebau a’u dyheadau eu hunain. Mae diddordeb gyda fi ym mhensaernïaeth am y gwerth cymdeithasol y gall ei gynnig i unigolion a chymunedau ac, felly, dewisais astudio cadw, adnewyddu ac ailddefnyddio hen adeiladau i ddibenion newydd, cynaladwy a buddiol. Arweiniodd y rhyddid i ganolbwyntio ar y pwnc hwnnw yn fy nhraethawd at swydd yng nghwmni Penseiri Purcell sy’n arbenigo ynghylch cadw ac ailddefnyddio adeiladau o bwys hanesyddol, gan osod y sylfeini ar gyfer dechrau fy nghwmni fy hun yn yr un maes.
Rhaid sôn am safon tiwtoriaid yr Ysgol hefyd, am fod llawer wedi ennill bri yn eu meysydd arbenigol ac yn rhoi gwybodaeth awdurdodol. Rwyf i wedi dal cysylltiadau â bron pob un o’r tiwtoriaid y cwrddais â nhw yn ystod fy addysg yn yr Ysgol, ac mae llawer yn parhau i’m helpu trwy roi o’u hamser a’u harbenigedd mewn modd hynod o hael.
Beth ddigwyddodd ar ôl ichi raddio?
Ar ôl gorffen Rhan l RIBA, dechreuais waith yn gynorthwywr pensaernïol dros gwmni Penseiri Purcell, rôl enillais trwy fy nhiwtor dylunio yn Rhan I a sgyrsiau gyda staff y cwmni a ddaeth i weld ein gwaith dylunio yn arddangosfa ddiwedd y flwyddyn ynghyd â chynrychiolwyr sawl cwmni blaenllaw arall. Bues i yn swyddfeydd Caerdydd a Bryste’r cwmni rhwng 2016 a 2021 gan ymgymhwyso’n bensaer yno a threulio fy holl amser ym maes cadw, estyn ac ailddefnyddio adeiladau treftadaeth sydd ar restr cadwraeth.
Rwy’n hanu o Fro Ogwr ac yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr a thrwy lwc, fe ges i gyfle i helpu i bennu’r delfryd ar gyfer adeiladau rhanbarthol a lleol o arwyddocâd yno megis Neuadd Tref Maes-teg, Pafiliwn Crand Porth-cawl a Chanolfan Celfyddydau’r Miwni ym Mhontypridd. Ar hyn o bryd, rwy’n cydweithio â chwmni Penseiri Purcell yn rôl pensaer prosiect £8 miliwn ar gyfer cadw, adnewyddu ac estyn Neuadd Tref Maes-teg, sydd yn nosbarth ll rhestr y gadwraeth. Trwy gadw neuadd y dref, gwella ei theatr ac ychwanegu theatr stiwdio newydd, llyfrgell gymunedol, cyntedd a bwyty, bydd y prosiect yn rhoi gwerth cymdeithasol enfawr i’r gymuned leol a’r rhanbarth ehangach ac yn diogelu dyfodol adeilad lleol enwog ac iddo lawer o bwysigrwydd cymdeithasol a diwylliannol i’r cwm oedd yn ardal lofaol cynt.
Sut roedd eich profiad cyntaf o weithio mewn cwmni?
Rwy’n cofio’r profiad cyffrous ond brawychus o adael y brifysgol a dechrau gwaith - y tro cyntaf mewn swydd amser llawn i’r rhan fwyaf o gyn fyfyrwyr. Fel dechrau unrhyw swydd, roedd yn ymestynnol dysgu gwir natur pensaernïaeth ac ymgynefino â’r gwaith ond roeddwn i’n ffodus bod sawl cyfle i ymweld â safleoedd yn rheolaidd a chymryd rhan mewn prosiectau dylunio amryfal.
Mae’n werth sôn am strwythur cwrs Rhan ll - peth dysgu yn ystod y flwyddyn gyntaf wrth weithio’n amser llawn a dychwelyd i’r campws i astudio’n amser llawn yn ystod yr ail ac er bod astudio’n rhan-amser wrth weithio’n amser llawn braidd yn ymestynnol, roedd cymorth a mentoriaid parhaus yr Ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw yn wir gefn imi. Roedd y drefn honno o fantais fawr imi, yn arbennig y tiwtora a’r cymorth gan staff y cwmni ar gyfer fy mhrosiectau dylunio yn ogystal â chyfle i siarad ag arbenigwyr cadw, ailddefnyddio ac adnewyddu adeiladau - roedd hynny o gymorth mawr ynghylch llunio traethodau a mireinio fy nyheadau.
Beth oedd eich rheswm dros sefydlu’ch cwmni eich hun?
Roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n sefydlu cwmni yn hwyr neu’n hwyrach gan fod agwedd fentrus gyda fi tuag at bensaernïaeth, a’r peth pwysicaf i mi oedd pennu pryd y byddai’n ddoeth rhoi cynnig arni. Yn hynny o beth, rwy’n ddiolchgar iawn i gwrs Rhan lll Ysgol Pensaernïaeth Cymru a’r rhai sy’n ei arwain, yr Athro Sarah Lupton a Manos Stellakis, am fod eu cwrícwlwm yn mynd y tu hwnt i’r hyn mae disgwyl i fyfyriwr ei wneud yn Rhan lll ac yn rhoi gwybodaeth berthnasol a defnyddiol iawn sydd wedi meithrin ynof yr hyder i weithio ar fy liwt fy hun.
O ganlyniad i sefydlu Initiate, rwy’n gallu gweithio yn ôl fy nhelerau fy hun a pharhau â chraidd fy ngwaith yn yr Ysgol a Purcell, sef brwdfrydedd am wella adeiladau cyfredol mewn ffyrdd creadigol a phenodol.
Beth rydych chi’n gobeithio ei gyflawni trwy eich menter newydd?
Initiate yw enw’r cwmni ac rydyn ni am ddod â bywyd, goleuni a hwyl newydd i adeiladau sy’n hen, yn ddi-nod neu’n segur. Rydyn ni’n arbenigo ym maes ehangu, addasu, ailddefnyddio ac adnewyddu adeiladau preswyl, masnachol a hanesyddol cyfredol ac yn gobeithio hybu dylunio gwell a mwy cynaladwy fel y bydd yn weladwy ac yn hygyrch.
Daw enw’r cwmni o’r diffiniad o’r gair, ‘peri i broses neu weithred ddechrau’. Yn ystod yr argyfwng presennol, mae rôl bwysig i benseiri ynghylch ystyried sut mae trin a thrafod adeiladau cyfredol ac rydyn ni’n credu y dylid eu cadw, eu gwella a’u hailddefnyddio lle bo’n hyfyw cyn ystyried codi rhai newydd; fel hyn, byddwn ni’n cadw’r carbon sydd wedi’i ddefnyddio wrth eu hadeiladu. Pan na allwn ni ailddefnyddio adeilad, rhaid inni ystyried hyblygrwydd economïau cylchol, sut y gallwn ni ddiwallu anghenion y dyfodol a sut y gallwn ni ddadadeiladu rhywbeth yn hytrach na’i ddymchwel fel y bydd modd ailddefnyddio’r hyn sydd ynddo.
Rydyn ni’n gobeithio ymgysylltu ag unigolion, grwpiau, ysgolion a chymunedau ledled y deheubarth ynghylch dylunio na fydd yn cyffwrdd â’n planed yn drwm, gan ystyried sut y gallwn ni wella adeiladau cyfredol i ddibynnu’n llai ar danwyddau ffosil a sut y gallen ni ailfodelu, addasu neu ehangu adeiladau cyfredol yn gynaladwy yn ôl anghenion cyfoes.
Mae rhagor o wybodaeth am gwmni Initiate ar ei wefan a thrwy Instagram.
Mae rhagor o wybodaeth am Ysgol Pensaernïaeth Cymru ar ein gwefan.