Researchers work with award-winning artist and writer to create ‘Virtual Ark’ of endangered species
10 Mai 2021
Bydd profiad realiti rhithwir o bum rhywogaeth ar gael i’w lawrlwytho fel rhan o gasgliad digidol o waith celf ac ysgrifennu a grëwyd gan blant ac aelodau o'r cyhoedd i gynrychioli anifeiliaid sydd dan fygythiad o ddifodiant.
Disgwylir y caiff yr Arch Rithwir ei lansio ddiwedd 2021, a'i nod yw tynnu sylw at ryfeddod a natur fregus treftadaeth hynod anifeiliaid y byd a'r hyn y gellir ei wneud i ddiogelu ei dyfodol. Trefnir yr Arch Rithwir mewn partneriaeth â'r Frozen Ark - menter i gasglu samplau DNA o ddeunyddiau genetig rhywogaethau dan fygythiad a'u rhewi mewn biofanc - ac mae hefyd am godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd biofancio ar gyfer cadwraeth rhywogaethau.
Ysbrydolwyd cynnwys yr Arch drwy gyfres o weithdai creadigol gan ymchwilwyr Caerdydd, ynghyd â'r artist Paul Evans, yr awdur Rowena Sommerville, biofanc Frozen Ark a sefydliadau celfyddydol a threftadaeth gymdeithasol Our Big Picture a Tees Valley Arts.
Cyd-greodd y cyfranogwyr 'fanc genynnau' rhithwir ar gyfer rhywogaethau dan fygythiad yn cynnwys cannoedd o fodelau o anifeiliaid a wnaed yng Ngŵyl Wyddoniaeth Caerdydd 2021 a gan ddisgyblion ysgolion cynradd Swydd Lincoln, a barddoniaeth a lluniau gan grwpiau awduron wedi'u lleoli yn Tees Valley, Whitby, a Grimsby. Cyfrannodd ymchwilwyr o fiofanc The Frozen Ark hefyd destun, modelau a lluniadau'n seiliedig ar eu hoff anifeiliaid yn yr Arch.
Yn ogystal â'r cynnwys a grëwyd gan y cyhoedd, bydd yr Arch Rithwir yn cynnwys pum rhywogaeth allweddol sydd dan fygythiad o ddifodiant mewn realiti rhithwir fydd ar gael i'w lawrlwytho. Mae tîm yr Arch Rithwir wedi enwebu Malwen y Coed o Polynesia, sydd wedi’i hachub yn ddiweddar rhag difodiant fel y rhywogaeth gyntaf, ac wedi lansio pleidlais gyhoeddus (https://www.frozenark.org/the-virtual-ark-poll) i ddewis y pedwar anifail arall. Bydd y bleidlais yn cau am 17:00 ddydd Gwener 14 Mai.
Dywedodd cyfarwyddwr The Frozen Ark yr Athro Mike Bruford, "Mae'r Arch Rithwir yn fenter wych fydd yn helpu i ledaenu'r neges i bobl ifanc, sy'n dal yr allwedd i ddyfodol ein planed a'i bioamrywiaeth. Mae doniau Paul a Rowena wedi creu profiad trawsnewidiol ac mae'r defnydd o realiti rhithwir yn hynod o gyffrous. Alla i ddim aros i weld beth fyddan nhw'n ei gynhyrchu."
Cyllidir yr Arch Rithwir gan raglen Grantiau Prosiect Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Lloegr a gan Wobr Prawf o Gysyniad Ymgysylltu â'r Cyhoedd Ymddiriedolaeth Wellcome ISSF3 #ARKS21stCentury.
Dywedodd Pete Massey, Cyfarwyddwr (Gogledd) Cyngor Celfyddydau Lloegr: “Wrth i’r pryder am y blaned a difodiant cynyddol anifeiliaid barhau i dyfu, rwy’n falch iawn ein bod yn cefnogi prosiect sy’n codi ymwybyddiaeth o’r mater hwn gan ddefnyddio’r celfyddydau ar y cyd â gwyddoniaeth. Rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith celf digidol fydd yn codi ohono."
Pleidleisiwch drwy'r ddolen: www.frozenark.org/the-virtual-ark-poll