Tîm Caerdydd yn cyrraedd y rhestr fer yn y Gwobrau Pro Bono am waith y Prosiect Dieuogrwydd
10 Mai 2021
Mae'r tîm o fyfyrwyr y tu ôl i Brosiect Dieuogrwydd Caerdydd wedi'u cydnabod am eu gwaith ar restr fer Gwobrau Pro Bono LawWorks eleni.
Mae prosiect dieuogrwydd yn gadael i fyfyrwyr y gyfraith weithio ar achosion o gamweinyddu cyfiawnder honedig gan ymchwilio i honiadau o ddieuogrwydd. Mae tîm Caerdydd, sy'n gweithio ar 13 achos ar hyn o bryd, yn cynnwys 13 o arweinwyr tîm ac 82 o fyfyrwyr eraill o blith carfannau israddedig, ôl-raddedig a galwedigaethol yr Ysgol. Fe'i goruchwylir gan arweinwyr prosiect academaidd, Dr Dennis Eady a Dr Holly Greenwood.
Mae'r tîm wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori LawWorks 'Cyfraniad Gorau gan Dîm o Fyfyrwyr' ac yn cystadlu â Chanolfan Pro Bono Ysgol y Gyfraith BPP, Prifysgol y Gyfraith (Nottingham), Clinig Cyfraith Prifysgol Plymouth a Chlinig Cyfraith Prifysgol Ystrad Clud.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r pwysau ar y tîm wedi cynyddu oherwydd y pandemig fel yr eglurodd yr Athro Julie Price, Pennaeth Uned Pro Bono'r Brifysgol a enwebodd y tîm, "Mae gennym ni 30+ o gypyrddau ffeilio'n llawn papurau cleientiaid yn ein hadeilad, ond bu'n rhaid i ni symud yn gyflym at system ddi-bapur. Roedd hyn yn golygu bod rhaid i'r myfyrwyr sganio'r ffeiliau a dysgu defnyddio'r system rheoli achosion. Heb hynny, fyddai ein gwaith wedi'i atal ond aethon nhw ati yn frwd i gofleidio'r dechnoleg newydd."
"Mae ein harweinwyr tîm wedi ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol am nad oedd dim byd ar y campws. Mae rhai o'r tîm yn rhyngwladol (er enghraifft mae un aelod yn byw ym Mhalesteina), felly bu'n rhaid i'n harweinwyr drefnu cyfarfodydd Zoom mewn gwahanol barthau amser. Maen nhw hefyd wedi gorfod gweithredu fel hyfforddwyr a mentoriaid oherwydd nad oedd modd i fyfyrwyr alw heibio’r campws a gofyn i'r goruchwylwyr am gyngor."
Prosiect Dieuogrwydd Caerdydd yw'r prosiect dieuogrwydd prifysgol mwyaf a mwyaf gweithgar ac mae'n dal i fod yr unig brosiect prifysgol yn y DU i wrthdroi euogfarn yn y Llys Apêl – mae wedi llwyddo ddwy waith: Dwaine George yn 2014, a Gareth Jones yn 2018.”
Ers iddo ddechrau yn 2006, mae'r prosiect wedi gweithio ar o ddeutu 50 o achosion ac mae enw da'r prosiect bellach yn golygu eu bod yn derbyn atgyfeiriadau gan gyfreithwyr a bargyfreithwyr sy'n ymarfer.
Mae LawWorks yn elusen sy'n ymrwymo i alluogi mynediad at gyfiawnder drwy gyngor cyfreithiol am ddim. Maen nhw'n credu yng ngrym cyngor cyfreithiol pro bono i helpu i wella bywydau pobl sydd mewn angen. Dethlir Gwobrau Blynyddol Pro Bono LawWorks mewn seremoni wobrwyo ar-lein ddydd Mercher 12 Mai 2021.