Dosbarth Eidaleg wrth ei bodd yn cwrdd ag awdur llwyddiannus
5 Mai 2021
Tiwtor yn lansio clwb llyfrau yn ystod y cyfnod clo
Dosbarth Eidaleg wrth ei bodd yn cwrdd ag awdur llwyddiannus
Mae Martina Gallina’n addysgu Eidaleg Uwch ar gyfer Addysg Barhaus a Phroffesiynol. Yn ystod y cyfnod clo, roedd Martina am ail-greu cyfeillgarwch ei hystafell ddosbarth wrth astudio ar-lein.
Cafodd ei hysbrydoli i lansio clwb llyfrau, a threfnodd i’w myfyrwyr gwrdd â Marco Balzano i drafod ei lyfr clodwiw ‘Resto Qui’ er mawr fwynhad y myfyrwyr.
Meddai Martina: “Pan ddechreuodd y myfyrwyr ddysgu ar-lein, roeddwn am sicrhau eu bod yn cael yr un profiad a gawsant yn yr ystafell ddosbarth.
Roedd angen i mi gynnal y trafodaethau, y rhyngweithio a'r cyfeillgarwch cyfarwydd, ac sydd mor bwysig wrth ddysgu iaith. Yn ôl pob tebyg, fy her fwyaf oedd y ffaith nad yw pob un o’r myfyrwyr yn hyderus yn defnyddio technoleg gwybodaeth.
Felly, meddyliais y gallai clwb llyfrau fod yn syniad eithaf da: tudalennau go iawn, Eidaleg go iawn, clawr caled a rhywbeth ysgogol. Cyn hir, roedd myfyrwyr y dosbarth wrth eu boddau â’r stori, ac fe wnaeth eu brwdfrydedd fy ysgogi i geisio cysylltu â’r awdur, nad oeddwn yn ei adnabod!
Mae ‘Resto Qui’ yn ymwneud â chymuned Almaeneg ei hiaith ar y ffin rhwng yr Eidal ac Awstria sy'n cael ei gorfodi i ffoi am fod y llywodraeth am adeiladu argae. Gwnaeth y Ffasgwyr hefyd orfodi’r defnydd o Eidaleg ar y bobl a oedd yn siarad Almaeneg, a hynny drwy rym.
Mae’r myfyrwyr wedi gwneud sylwadau ar ymroddiad Martina i roi gwersi cyffrous a bywiog bob wythnos:
“Mae dysgu iaith dramor, yn enwedig wrth i’r ramadeg ddechrau cymhlethu, bob amser yn heriol. Gallai’r teimlad rhyfedd o ddysgu ar-lein ar ben hynny fod wedi arwain at brofiad siomedig yn rhwydd.
Fodd bynnag, o ganlyniad i ddeinamigrwydd a chreadigrwydd ein tiwtor talentog, Martina Gallina, buan iawn y diflannodd unrhyw amheuon cychwynnol a oedd gan y grŵp Eidaleg Lefel F ar ddechrau'r flwyddyn. Uchafbwynt y flwyddyn oedd cyfweliad grŵp byw gyda'r awdur ar-lein.
Gwnaethom baratoi a thrafod ein cwestiynau gyda’n gilydd ymlaen llaw. Gwaith athrylithgar ar ran Martina, a llwyddiant gwych i berswadio’r awdur i gymryd rhan. Bravo, Martina, e grazie mille.” – Brenda Despontin
“Gwnaeth Marco Balzano a Martina Gallina, ein hathro a drefnodd y cyfarfod hwn, gyfrannu at y sesiwn hon er mwyn sicrhau ei bod yn fyfyrdod gwirioneddol fywiog ac eglurhaol o rôl yr awdur a chyfraniad y darllenydd.
Clywsom yr awdur ei hun yn sôn am hanes y cymeriadau a sut maent yn rhyngweithio â’i gilydd, a oedd yn ddiddorol iawn. Ar ddiwedd y sesiwn, roeddem yn bendant yn teimlo bod ein dealltwriaeth o Eidaleg a diwylliant yr Eidal wedi datblygu’n ehangach.”
– Marie-Laure Jones
Mae rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau iaith ar gael yma.
Mae gwybodaeth am ein holl gyrsiau rhan-amser ar gael yma.