Ewch i’r prif gynnwys

Hoff long Brenin Harri’r Wythfed, Mary Rose, wedi’i hwylio gan griw rhyngwladol

5 Mai 2021

©Hufton+Crow
©Hufton+Crow

Mae bywgraffiadau wyth aelod o griw llong ryfel y Tuduriaid, Mary Rose, a ddarganfuwyd ymhlith olion y llong ei hun, wedi’u datgelu drwy ddefnyddio’r dulliau archeolegol diweddaraf.

Defnyddiodd academyddion Prifysgol Caerdydd, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Mary Rose ac Arolwg Daearegol Prydain, dechnegau gwyddonol arloesol i ddatgelu llinach, gwreiddiau plentyndod a deiet rhai aelodau’r criw a fu farw ar y llong yn 1545 OC. Mae’r wybodaeth hon wedi’i defnyddio i weld ble, ym Mhrydain a thu hwnt, y cawsant eu magu.

Mae’r data'n awgrymu y gallai cymaint â thri o’r wyth aelod o’r criw yn yr astudiaeth fod wedi dod o hinsoddau cynhesach a mwy deheuol na Phrydain, fel arfordiroedd de Ewrop, Iberia a gogledd Affrica. Mae’r ymchwilwyr yn dweud bod y pum aelod arall yn debygol o fod wedi cael eu magu yng ngorllewin Prydain. Mae gwaith dadansoddi pellach hefyd yn awgrymu bod un o’r dynion hyn o linach Affricanaidd.

Roedd Mary Rose yn llong ryfel lwyddiannus am 34 mlynedd yn ystod teyrnasiad Harri’r Wythfed. Gwnaeth suddo yn ystod Brwydr y Solent ger arfordir de Lloegr, a bu farw’r rhan fwyaf o’r criw.

Dywedodd Jessica Scorrer, myfyriwr MSc graddedig yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd a’r awdur cyntaf ar y papur: “Mae ein canfyddiadau’n tynnu sylw at gyfraniad pwysig unigolion o gefndiroedd a gwreiddiau amrywiol at lynges Lloegr yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn ychwanegu at y dystiolaeth ar gyfer amrywiaeth mewn gwreiddiau daearyddol, llinach a phrofiadau byw yn Lloegr y Tuduriaid.”

Ym 1982, cafodd olion Mary Rose a 19,000 o arteffactau eu codi, a hynny 437 mlynedd ar ôl i’r llong suddo. Mae miloedd lawer o’r arteffactau’n cael eu gwarchod a’u harddangos yn iard longau hanesyddol Portsmouth, lle maent wedi bod yn destun ymchwil helaeth ers hynny.

Ar gyfer yr astudiaeth ddiweddaraf hon, defnyddiodd yr ymchwilwyr dechneg o'r enw dadansoddi aml-isotop wrth edrych ar ddannedd yr wyth aelod o’r criw er mwyn ymchwilio i’w deiet a darganfod ble y gwnaethant dreulio eu blynyddoedd cynnar. Mae traswyr cemegol o'r bwyd a’r dŵr y gwnaethant ei fwyta a’i yfed yn ystod plentyndod, sy’n rhoi tystiolaeth o leoliad daearyddol, i’w cael yn y dannedd o hyd. Mae hyn wedi galluogi’r tîm i ymchwilio i sail eu deiet.

Ychwanegodd Dr Richard Madgwick o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd hefyd: “Drwy gyfuno’r dulliau gwyddonol diweddaraf â gwybodaeth am yr arteffactau o’r llong, rydym wedi gallu adfer bywgraffiadau wyth o bobl o gyfnod y Tuduriaid yn fanylach nag sy’n bosibl fel arfer. Mae hyn wedi dangos eu gwreiddiau amrywiol ac wedi dangos y dystiolaeth uniongyrchol gyntaf o forwyr o linach Affricanaidd yn llynges Harri’r Wythfed.”

Mae’r wyth aelod o’r criw sy’n cael sylw yn yr ymchwil hefyd wedi bod yn sail i arddangosfa dros dro – The Many Faces of Tudor England – yn amgueddfa The Mary Rose yn Portsmouth.

Dywedodd Dr Alexzandra Hildred, Pennaeth Ymchwil a Churadur Ordnans a Gweddillion Dynol Ymddiriedolaeth Mary Rose: “ Gwnaeth amrywiaeth a nifer yr arteffactau personol a gafodd eu codi, ac a gafodd eu gwneud y tu allan i Loegr yn amlwg, wneud i ni feddwl tybed a gafodd rhai o’r criw eu geni dramor.  Fodd bynnag, ni wnaethom ddisgwyl cymaint o amrywiaeth.  Mae'r astudiaeth hon yn newid ein syniadau o gyfansoddiad llynges gychwynnol Lloegr yn llwyr.”

Mae ‘Diversity aboard a Tudor warship: investigating the origins of the Mary Rose crew using multi-isotope analysis’ wedi’i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Royal Society Open Science.

Rhannu’r stori hon