Prosiect monitro cymuned dŵr cronfa yn derbyn Cyllid Arloesedd Ofwat
4 Mai 2021
Yn ddiweddar, enillodd ein hymchwilwyr cyswllt, Dr Rupert Perkins a’r Athro Pete Kille, Her Arloesedd Dŵr Ofwat i fonitro cymuned dŵr cronfa drwy ddefnyddio DNA amgylcheddol.
Nod yr Her Arloesedd mewn Dŵr a lansiwyd eleni gan Ofwat yw helpu sector Cymru a Lloegr i ddatblygu’r capasiti i arloesi ymhellach. Bydd yr arian yn cefnogi 11 o brosiectau buddugol, pob un ohonynt yn gydweithredol dros ben, er mwyn diwallu anghenion esblygol cwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd.
Mae monitro a rheoli risg Blas ac Arogl (T&Os) mewn cronfeydd dŵr yfed yn galw am ddata cywir, amserol ynghylch y gymuned o algâu a cyanobacteria. Mae dadansoddi presenoldeb a newidiadau yn swm y metabolitau T&O (geosmin ac MIB) hefyd yn ddrud ac yn cymryd amser, ac mae’n rhaid iddo gael ei wneud gan weithwyr medrus mewn labordai gwasanaeth dŵr. Yn y cyd-destun hwn, gall fod oedi wrth sicrhau bod y data gofynnol yn cyrraedd cwmnïau dŵr er mwyn optimeiddio triniaeth a rhoi ymyriadau ataliol ar waith.
Bydd Dr Rupert Perkins o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, a’r Athro Pete Kille o Ysgol y Biowyddorau, yn defnyddio methodolegau monitro DNA amgylcheddol (eDNA) i ganfod algâu yn gyflymach mewn dŵr yfed. Mae eDNA yn fodd cyflym a chywir o ganfod rhywogaethau’r gymuned gyfan, gan gynnwys bacteria, cyanobacteria a microalgâu o un sampl dŵr. Mae’n helpu i ddehongli data bioamrywiaeth yn effeithlon, a mesur amlygrwydd genynnau allweddol yn y llwybr biosynthetig T&O.
Bydd y prosiect yn darparu manteision uniongyrchol i’r diwydiant dŵr trwy gynnig offeryn cyflym, cywir a rhatach iddyn nhw i roi atebion triniaeth ar waith yn well. Bydd cyflymder prosesu samplau a chanlyniadau yn cael ei wella trwy ddatblygu porthol data gweledol, hawdd ei ddefnyddio. Trwy drosglwyddo technoleg a gwybodaeth, bydd y prosiect hefyd yn helpu cwmnïau dŵr i benderfynu ynghylch gwneud y broses yn fewnol neu sefydlu’r system fel gwasanaeth sy’n cael ei gyrchu o’r tu allan.
Yn ystod y prosiect, bydd Dr Rupert Perkins a’r Athro Pete Kille yn cydweithio’n agos â phartneriaid o’r diwydiant dŵr, gan gynnwys Dŵr Cymru, sy’n arwain y prosiect ar y cyd, Bristol Water plc, United Utilities, a Yorkshire Water Services Ltd.
Yn ôl Dr Rupert Perkins: ‘Bydd y prosiect yn cynhyrchu’r wybodaeth mae arnom ei hangen i fonitro, rhagfynegi a chael hyd i atebion ataliol ar gyfer digwyddiadau blas ac arogl. Yn bwysicaf oll, ffocws y prosiect yw datblygu’r fethodoleg fel bod modd ei throsglwyddo i gwmnïau dŵr ei defnyddio’n fewnol, er mwyn cyflymu’r broses o gasglu’r data sy’n angenrheidiol i greu sylfaen o dystiolaeth ar gyfer atebion.’
Find out more about our partnerships and please contact David Crole if you would like to collaborate with researchers from the Water Research Institute.