Datgelu hanes cudd Josephine Baker yn ystod y rhyfel
4 Mai 2021
Mae'r Athro Ffrangeg, Hanna Diamond wedi ennill cymrodoriaeth ymchwil ddwy flynedd gan Leverhulme i ysgrifennu llyfr newydd yn cofnodi profiadau'r ddiddanwraig Josephine Baker yn ystod y rhyfel.
Ysbrydolwyd yr Athro Diamond, sy'n arbenigo ar hanes cymdeithasol a diwylliannol Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd, i ysgrifennu'r llyfr ar ôl derbyn comisiwn i ymchwilio ac ysgrifennu erthygl hir i gylchgrawn yn 2018.
Fel yr esbonia'r Athro Diamond, "Wrth ysgrifennu'r darn am brofiadau Josephine Baker yn ystod y rhyfel i gylchgrawn digidol Truly Adventurous yn UDA sylweddolais er bod bywgraffiadau di-rif yn cofnodi trawsnewidiad Baker o ddawnsiwr corws Americanaidd tlawd i seren ryngwladol, does fawr wedi'i ysgrifennu am ei bywyd yn ystod y rhyfel pan fu'n ysbïo ar ran y gwrthsafiad yn Ffrainc."
Yn 1945, pan oedd Baker yn tynnu at ei deugain, gyda llawer yn ystyried bod ei dyddiau gorau y tu ôl iddi, aeth ati i hyrwyddo straeon am ei gweithgareddau gyda'r gwrthsafiad yn y rhyfel i ateb adroddiadau ffug am ei marwolaeth ac adfer ei statws fel ffigur adnabyddus. Dywedodd Baker iddi gasglu a throsglwyddo cudd-wybodaeth dan gochl ei henwogrwydd yn Ffrainc, Sbaen, Portiwgal a Gogledd Affrica ar yr un pryd ag oedd hi'n diddanu milwyr y Gynghrair.
A ninnau'n gynyddol yn cydnabod pwysigrwydd datgelu straeon a fu ynghudd oherwydd rhywedd, rhywioldeb neu ethnigrwydd, mae'r Athro Diamond yn teimlo bod ei Chymrodoriaeth Leverhulme yn amserol iawn.
Bydd y gyfrol yn tynnu ar destunau sy'n bodoli a ysgrifennwyd gan Baker, a phobl oedd yn ei hadnabod, testunau sy'n darlunio Baker fel menyw a ddefnyddiodd ei rhywioldeb, ei henwogrwydd a'r ffaith ei bod yn ddu er budd achos Ffrainc Rydd. Pan fydd yn bosibl, mae'r Athro Diamond yn bwriadu olrhain y dystiolaeth mewn archifau yn y DU, Ffrainc, yr UD a Gogledd Affrica i ddatgelu deunydd am gyfraniad Baker yn ystod y rhyfel.
Bydd llyfr yr Athro Diamond yn holi a oedd dewisiadau Baker yn wahanol i ddiddanwyr eraill y cyfnod, fel Maurice Chevalier, a sut y dylanwadodd ei bywyd cyn y rhyfel ar y dewisiadau hyn. Pa fanteision a ddaeth i'w gwaith ysbïo yn sgil ei henwogrwydd? Sut mae Baker yn cymharu â menywod eraill yr oedd eu llwybrau trawswladol yn nodi eu cyfraniad i'r gwrthsafiad a sut dylid coffáu eu gwaith gyda'r gwrthsafiad?
Bydd y gyfrol yn ceisio cynnig dealltwriaeth o ddynameg hil a rhywedd mewn astudiaethau gwrthsafiad a chudd-wybodaeth.