Gwobr Adnoddau Dynol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Ymchwil 2021
29 Ebrill 2021
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llwyddo i gadw ei gafael ar Wobr Adnoddau Dynol am Ragoriaeth Ymchwil ar ôl adolygiad allanol o’r ffyrdd y mae’n cefnogi ei staff ymchwil a'u datblygiad.
Mae’r Wobr yn dangos ymrwymiad sefydliad i weithredu’r Concordat er mwyn Cefnogi Datblygiad Gyrfaoedd Ymchwilwyr. Mae'n fecanwaith pwysig ar gyfer gweithredu egwyddorion y Concordat, ac wrth gadw eu Gwobrau mae sefydliadau wedi dangos eu hymrwymiad tymor hir i ddatblygiad gyrfa ymchwilwyr.
Mae'r Brifysgol yn un o bedair prifysgol yn y DU a gadwodd y Wobr ar ôl eu hadolygiad deng mlynedd.
Mae'r wobr yn cydnabod bod y Brifysgol wedi cwblhau dadansoddiad bwlch o'i pholisïau a'i harferion presennol yn erbyn y Concordat, wedi datblygu cynllun gweithredu cadarn ar gyfer gweithredu ac wedi ystyried barn ei hymchwilwyr.
Dros y ddwy flynedd nesaf bydd y Brifysgol yn canolbwyntio ar y pedwar cam gweithredu canlynol a nodir yn ei Chynllun Gweithredu Concordat:
- Codi ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad o'i ymrwymiadau a'i gyfrifoldebau o dan y Concordat Datblygu Ymchwilwyr i gefnogi amgylchedd ymchwil cadarnhaol i'w staff ymchwil.
- Ymestyn ac arallgyfeirio cyfleoedd datblygiad personol a phroffesiynol ymchwilwyr i wneud yn siŵr bod yr holl staff ymchwil yn cael y wybodaeth a’u paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
- Amlygu llais a gwelededd yr ymchwilydd wrth lunio polisïau a strategaeth y Brifysgol, gan rymuso staff ymchwil i helpu i lunio ein diwylliannau ymchwil a'n hamgylchedd.
- Gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymchwilwyr, gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer lles ac iechyd meddwl, er mwyn galluogi ein holl staff ymchwil i ffynnu.
Dywedodd yr Athro Karin Wahl Jorgensen, Deon Ymchwil yr Amgylchedd a Diwylliant, “Mae Gwobr Adnoddau Dynol am Ragoriaeth Ymchwil yn gydnabyddiaeth i'w chroesawu o ymrwymiad y Brifysgol i hyrwyddo gyrfaoedd ymchwilwyr a chefnogi amgylchedd ymchwil cadarnhaol. Edrychaf ymlaen at weithio gydag ymchwilwyr a chydweithwyr eraill ledled y Brifysgol ar y cam nesaf wrth weithredu'r cynllun gweithredu.”
Mae nodau'r Concordat yn cyd-fynd yn agos â rhaglen waith fwy a pharhaus sy'n canolbwyntio ar wella amgylchedd ymchwil a diwylliant y Brifysgol."