Athro o Brifysgol Caerdydd wedi’i benodi’n rhan o Lwyfan Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystem
29 Ebrill 2021
Mae’r Athro Susan Baker wedi’i phenodi i weithio ar Asesiad Gwerthoedd IPBES.
Mae'r Llwyfan Polisïau Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Wasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystem (IPBES) yn gorff rhynglywodraethol annibynnol. Ei nod yw cryfhau'r rhyngwyneb rhwng polisïau a gwyddoniaeth ar gyfer bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem at ddibenion cadwraeth a’r defnydd cynaliadwy o fioamrywiaeth, lles dynol hirdymor a datblygiad cynaliadwy.
Fel y noda’r IPBES yn ei Adroddiad Asesu Byd-eang diweddar, “Mae natur yn hanfodol ar gyfer bodolaeth ddynol ac ansawdd bywyd da.” Ac eto, mae penderfyniadau ynghylch sut y defnyddir ein hadnoddau naturiol cynyddol fregus a sut i'w hamddiffyn, yn aml yn methu ag ystyried yr amrywiaeth o ffyrdd y mae gwahanol gymunedau yn rhoi gwerth i natur. Mae cydnabod y gwerthoedd amrywiol hyn yn hanfodol os ydym am fynd i'r afael yn ddigonol â'r her o sicrhau cynaliadwyedd byd-eang.
Bydd yr “Asesiad o Werthoedd” sydd ar y gweill yn cyflwyno'r canfyddiadau mwyaf cadarn hyd yma ar sut mae cymunedau amrywiol yn gwerthfawrogi natur mewn gwahanol ffyrdd. Bydd hefyd yn rhoi tystiolaeth i helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gydnabod y gwahanol fathau o werthoedd natur er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau.
Gan weithio gydag awduron arbenigol o ystod eang o gefndiroedd disgyblu a rhyngddisgyblaethol, cafodd yr Athro Baker ei phenodi’n Olygydd Adolygu i Bennod 4 o'r Asesiad o Werthoedd, ynghyd â'r cyd-Olygydd Adolygu, Juan-Camilo Cárdenas, Athro Economeg yn Universidad de los Andes, Bogotá, Colombia. Yn eu rôl fel cyd-olygyddion, byddant yn helpu i arwain yr awduron drwy’r prosesau cymhleth a llywio sylwadau gan ran-ddeiliaid byd-eang.
Meddai’r Athro Baker: “Pan fydd Asesiad Gwerthoedd IPBES yn cael ei gyhoeddi yn 2022, bydd yn rhoi sylfaen wyddonol ar gyfer llywio penderfyniadau sy’n ystyried yr amrywiaeth o werthoedd yn y modd rydym yn rhyngweithio â natur”. Ychwanegodd: “Bydd asesu’r amrywiaeth hon o werthoedd a sut maen nhw’n cael eu hymgorffori wrth wneud penderfyniadau, yn cyfrannu at fynd i’r afael â gwrthdaro dros natur a hyrwyddo penderfyniadau mwy teg.”
Bydd drafftiau'r adroddiad asesu ar agor ar gyfer dwy rownd o adolygu allanol gan arbenigwyr a llywodraethau. Wedi hynny, caiff yr adroddiad terfynol ei gyflwyno i'w ystyried gan 130 aelod-wladwriaeth IPBES yn 2022.