Fideo: Ymrwymiadau maniffestos y pleidiau a’r rhagolwg cyllidol yn cael eu dadansoddi gan dîm WFA
28 Ebrill 2021
Dadansoddwyd ymrwymiadau maniffestos y pleidiau a’r rhagolwg cyllidol dros dymor nesaf y Senedd gan ymchwilwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd mewn gweminar a gafodd dderbyniad da.
Yn y digwyddiad briffio gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru (WFA), fe graffwyd ar y prif gynlluniau gwariant a chafwyd dadansoddiad o addewidion y pleidiau ar drethi eiddo gan David Phillips o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (Institute for Fiscal Studies). Mae'r sleidiau a gyflwynwyd ar gael yma.