Glasu Cathays a Thu Hwnt
26 Ebrill 2021
Mae prosiect newydd uchelgeisiol gan dîm y Pharmabees eisiau cynyddu mannau gwyrdd ledled Caerdydd. I ddechrau mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ardal Cathays, gyda phlanwyr yn cael eu gosod a blychau trydanol yn cael eu paentio â chelf stryd.
Mae'r prosiect hwn wedi cael ei gynnal ers bron i flwyddyn ac mae cynlluniau ar y gweill i ehangu'r plannu i Sblot a Grangetown. Mae ymchwil wedi dangos y gall defnydd cynyddol o fannau gwyrdd leihau problemau iechyd tymor hir fel clefyd y galon, canser a chyflyrau cyhyrysgerbydol - a lleddfu difrifoldeb symptomau sy'n gysylltiedig â straen. Mae bod o amgylch natur yn ein tawelu ac yn tynnu ein meddyliau oddi ar fusnes bywyd bob dydd a sefyllfaoedd llawn straen.
Yn bennaf, mae'r stoc dai yn Cathays yn cynnwys tai Fictoraidd dwysedd uchel, deiliadaeth luosog, gyda myfyrwyr yn ffurfio'r mwyafrif o'r boblogaeth yn ystod y tymor. Mae strydoedd yn Cathays ymhlith yr isaf yng Nghaerdydd o ran gwyrddni (1%) ymhell islaw cyfartaledd Cymru, sef 13%. Mae'r planhigion sydd wedi'u hau yn Cathays i gywiro’r diffyg gwyrddni hwn yn cynnwys dant y llew, penlas yr ŷd, meillion gwyn, clychau'r gog, lafant, cennin Pedr, eirlysiau a llawer mwy. Mae'r holl blanhigion hyn wedi'u cyflwyno mewn ymdrech i greu darnau o wyrdd mewn anialwch trefol ac i roi bwyd i bryfed ac adar, mewn ymgais i gynyddu bioamrywiaeth a phoblogaethau peillwyr yn y ddinas.
Mae'r prosiect hefyd yn edrych i ymrestru gwyddonwyr dinesig i gofnodi pa fath o bryfed sy'n mudo i'r ardal gan ddefnyddio detholiad o adnoddau, gan gynnwys eu Ap Spot-a-bee, sydd ar gael yn siop apiau Apple a Google Play.