Cyhoeddwr o fri yn dathlu ymchwilwyr Tsieineaidd
21 Ebrill 2021
Mae pennod o lyfr a gafodd ei chyd-ysgrifennu gan arbenigwr Busnes a Rheolaeth Ryngwladol o Brifysgol Caerdydd wedi cael sylw mewn detholiad o gyhoeddiadau dylanwadol gan ymchwilwyr o Tsieina.
Mae'r rhestr, a luniwyd gan Springer Nature, yn cynnwys deg ar hugain o'r papurau ymchwil a ddyfynnwyd fwyaf a phenodau llyfrau wedi'u lawrlwytho ym meysydd Busnes a Rheolaeth, Economeg, Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith hyd at fis Rhagfyr 2020, yn seiliedig ar wybodaeth y cyhoeddwr.
Fe wnaeth Dr Yue Xu, darlithydd yn Adran Marchnata a Strategaeth Ysgol Busnes Caerdydd, gyd-ysgrifennu’r bennod ‘Independent or Interdependent Innovation: The Case of Huawei 'ar gyfer casgliad wedi'i olygu am y cwmni technoleg rhyngwladol Tsieineaidd o'r enw Huawei Goes Global.
Mae’r bennod, a ysgrifennwyd gyda’r Athro Cynorthwyol Xingkun Liang o Adran Rheoli Gwybodaeth Prifysgol Peking, yn canolbwyntio ar broses arloesi Huawei ac mae’n esbonio sut mae cwmnïau sydd wedi ymuno â’r maes yn hwyrach yn gallu rheoli eu cyd-ddibyniaeth a’u hannibyniaeth yn fwriadol wrth ddal i fyny.
Mae’r rhestr yn rhan o gasgliad a guradwyd o’r cyhoeddiadau mwyaf dylanwadol diweddaraf gan ymchwilwyr o Tsieina ar draws BMC, Nature Portfolio, Palgrave Macmillan a Springer gan gynnwys 300+ o gyfnodolion arwyddocaol.
Lansiwyd y casgliad yn rhan o’r Ŵyl Wanwyn Tsieineaidd i nodi Blwyddyn Newydd yr Ychen 2021.
Meddai Niels Peter Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Springer Nature (Books): “Ar achlysur Gŵyl y Gwanwyn mae tîm cyfan Springer Nature Books yn dymuno blwyddyn hapus a llwyddiannus yr ychen i’r gymuned ymchwil Tsieineaidd.”