Ewch i’r prif gynnwys

Ymunwch ag Ysgol Haf Ymchwil Anhwylderau'r Ymennydd ar-lein ar gyfer 2021

21 Ebrill 2021

MRC 9fed Ysgol Haf
Cynrychiolwyr a siaradwyr Ysgol Haf MRC 2018

Bydd Ysgol Haf Ymchwil Anhwylderau’r Ymennydd Canolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG) yr MRC yn cael ei chynnal am yr 11eg flwyddyn yn 2021.

Mae Ysgol Haf CNGG yr MRC, sydd wedi’i disgrifio’n gyfle “ysbrydoledig” ac yn “agoriad llygad” gan gyfranogwyr yn y gorffennol, yn gwrs blynyddol sy’n cael ei gynnal ar-lein dros bum niwrnod eleni.

Eglurodd yr Athro George Kirov, sy'n cydlynu'r cwrs: "Rydym wastad wedi bod yn falch o gael pobl yn teithio o bob rhan o'r byd i ddod i'n hysgol haf. Er na allwn fod gyda'n gilydd wyneb yn wyneb eleni, rydym yn edrych ymlaen at gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl ar-lein.

"Mae’r ysgol yn cynnig areithiau gan rai o ymchwilwyr mwyaf blaenllaw y meysydd seiciatreg a niwrowyddorau, gan gynnwys yr Athro Syr Mike Owen, yr Athro James Walters a’r Athro Jeremy Hall. Felly mae wir yn gyfle gwych na ddylech chi ei golli."

Mae’r cwrs, sydd ar agor i hyfforddeion clinigol (Sylfaen/Craidd/Hyfforddiant Arbenigol) a gwyddonwyr anghlinigol (MSc, PhD, Ôl-ddoethurol), yn gyfle gwych i’r rhai sydd â diddordeb mewn symud i’r maes genomeg a geneteg niwroseiciatrig neu’r rhai sydd am gael cyflwyniad i ymchwil am anhwylderau’r ymennydd.

A laptop showing a zoom call with lots of people and a cup of tea on a table

Yn ogystal ag areithiau, mae’r cwrs yn cynnwys cyflwyniadau ac arddangosiadau am amrywiaeth o bynciau seiciatreg, niwroleg a niwrowyddorau. Er enghraifft:

  • Niwroddelweddu
  • Epidemioleg seiciatrig
  • Geneteg ac epigeneteg
  • Arddangosiadau dilyniannu trosiant uchel
  • Trin bôn-gelloedd
  • Asesu ffenotypig
  • Moeseg mewn ymchwil enetig

Cynhelir gweithdai hefyd sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor ar yrfaoedd gwyddonol a chymrodoriaethau academaidd.

Gallwch ddod i'r ysgol haf yn rhad ac am ddim.

Gwnewch gais nawr

Mae ceisiadau ar gyfer Ysgol Haf yr MRC nesaf ar agor nawr, a byddant yn cau ar 4 Mehefin 2021.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig.

Rhannu’r stori hon