Ewch i’r prif gynnwys

Mae dwy ran o dair o blant yn edrych ymlaen at bontio i'r ysgol uwchradd, yn ôl adroddiad newydd

20 Ebrill 2021

REF - Education

Mae pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd yn garreg filltir bwysig ym mywyd person ifanc a thra bo llawer o blant yn edrych ymlaen ato, mae hefyd yn destun pryder i eraill.

Yn ddiweddar cyfrannodd ymchwilwyr o Ganolfan Wolfson ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Graham Moore a'r Athro Frances Rice, at astudiaeth i brofiadau disgyblion yng Nghymru. Nod yr astudiaeth oedd deall i ba raddau roedd plant yn edrych ymlaen at / yn poeni am y cyfnod pontio i'r ysgol uwchradd a sut oedd cefndir economaidd-gymdeithasol plentyn yn ogystal ag unrhyw ystyriaethau emosiynol ac ymddygiadol yn effeithio ar y teimladau hyn.

Meddai'r Athro Graham Moore “Dywedodd traean o blant eu bod yn poeni rywfaint neu’n fawr iawn am bontio i’r ysgol uwchradd, tra bod oddeutu dwy ran o dair yn dweud eu bod yn edrych ymlaen ato. Roedd pryderon am bontio o addysg gynradd i uwchradd yn ymwneud yn bennaf â themâu bwlio a chynnal cyfeillgarwch oedd eisoes yn bodoli. Roedd gwneud ffrindiau newydd a chwrdd â hen ffrindiau eto mewn lleoliad newydd yn creu cyffro."

Fodd bynnag, roedd plant o gefndiroedd ac ysgolion tlotach a phlant â mwy o anawsterau emosiynol yn fwy tebygol o sôn am eu pryderon ynghylch symud i'r ysgol uwchradd.

Ychwanegodd yr Athro Frances Rice "Mae plant sy'n sôn am anawsterau mwy emosiynol neu ymddygiadol yn llai tebygol o edrych ymlaen at bontio o'r ysgol gynradd i'r uwchradd. Mae'n hanfodol fod prosesau a gweithdrefnau sy'n cefnogi plant yn ystod y cyfnod hwn o newid yn sensitif i anghenion plant o gefndiroedd llai cefnog a'r plant hynny sydd ag anawsterau iechyd meddwl."

Fel y casglodd yr Athro Graham Moore, "Mae deall profiadau pobl ifanc a sut y gallwn gefnogi eu hanghenion, yn enwedig yn ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant, yn parhau'n hynod o bwysig, yn enwedig yng ngoleuni pandemig COVID-19.

"Yn amlwg, dim ond un rhan o'r darlun yw ysgolion, a bydd cefnogi anghenion pobl ifanc, yn enwedig wrth i ni adfer yn sgil y pandemig, yn golygu ymdrech ar draws y gymdeithas gyfan. Fodd bynnag, mae rôl hefyd i ymyriadau effeithiol yn yr ysgol a gweithgareddau i gefnogi pobl ifanc o gefndiroedd tlotach a rhai â phryderon iechyd meddwl wrth leihau anghydraddoldebau sy'n ymddangos yn ystod plentyndod, sy'n gallu cael eu chwyddo yn ystod cyfnodau allweddol mewn bywyd fel symud i'r ysgol uwchradd. Gan weithio ar y cyd â Chanolfan Wolfson a Chanolfan DECIPHer, edrychwn ymlaen at gyflawni gwaith pellach yn y maes hwn dros y blynyddoedd nesaf. ”

Mae'r papur ‘Socio-Economic Status, Mental Health Difficulties and Feelings about Transition to Secondary School among 10–11 Year Olds in Wales: Multi-Level Analysis of a Cross-Sectional Survey’ ar gael ar-lein ac fe'i cyhoeddir gan Springer.

Rhannu’r stori hon