Cydnabyddiaeth swyddogol am raglen gradd seibr-ddiogelwch
15 Ebrill 2021
Mae MSc Prifysgol Caerdydd mewn Seibr-ddiogelwch wedi'i ardystio'n swyddogol gan Ganolfan Seibr-ddiogelwch Genedlaethol y DU (NCSC).
Gwnaed yr ardystiad dros dro i gydnabod yr adnoddau addysgu a dysgu o ansawdd uchel a gynigir gan y cwrs yn ogystal ag ehangder y cynnwys a addysgir trwy gydol y rhaglen radd blwyddyn o hyd.
Wedi'i ddatblygu ar y cyd â diwydiant ac wedi'i alinio ag argymhellion NCSC, mae'r MSc mewn Seibr-ddiogelwch yn cynnig yr egwyddorion, arferion, adnoddau a thechnegau diogelwch diweddaraf i fyfyrwyr.
Yn ogystal ag astudio meysydd fel datblygu cymwysiadau diogel, rheoli risg, dadansoddi malwedd a gwaith fforensig digidol, bydd myfyrwyr yn dod i ddeall elfennau cysondeb a thrawsnewid busnes sy'n hanfodol i seibr-wydnwch mewn tirwedd o fygythiadau sy'n esblygu o hyd.
Arweinir y cwrs gan dîm o ymchwilwyr seibr-ddiogelwch o'r radd flaenaf mewn labordy cyfrifiadurol ag offer da gyda mynediad o bell 24/7. Mae'n paratoi myfyrwyr ar gyfer un o'r rolau sydd â galw mawr amdanynt, gyda graddedigion wedi cael cynnig amrywiaeth o rolau mewn seibr-ddiogelwch, fforensig ddigidol a gwyddorau data.
Mae'r cwrs yn cael ei gynnal gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ac mae'n rhan o Academi Gwyddor Data'r Brifysgol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn un o ddeg prifysgol i gael eu hardystio gan yr NCSC yn y rownd ddiweddaraf o gyhoeddiadau, gan ymuno â nifer o sefydliadau proffil uchel o bob rhan o'r DU.
Mae rhaglen ardystio gradd NCSC yn cydnabod addysg seibr o ansawdd uchel ac fe'i cynlluniwyd i helpu myfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch dilyn graddau seibr-ddiogelwch.
Mae data swyddogol yn dangos bod mwy na hanner myfyrwyr y DU (52%) sy'n dilyn gradd Meistr sy'n gysylltiedig â seibr-ddiogelwch wedi dewis cwrs wedi'i ardystio gan NCSC.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr NCSC ar gyfer Twf Seibr: “Mae'n wych gweld mwy o brifysgolion y DU yn cael eu cydnabod am eu gwaith yn datblygu gweithwyr proffesiynol seibr-ddiogelwch medrus.
“Mae cynnig gradd ardystiedig yn helpu darpar fyfyrwyr i wneud dewisiadau mwy gwybodus am eu gyrfaoedd yn y dyfodol a gall cyflogwyr fod yn sicr bydd graddedigion yn cael eu haddysgu’n dda ac yn cael sgiliau diwydiant gwerth mawr.”
Dywedodd yr Athro Peter Burnap, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Seibr-ddiogelwch Caerdydd: “Rwy’n hynod falch bod ein MSc wedi cael ei ardystio dros dro gan yr NCSC a bod Prifysgol Caerdydd wedi cael ei chydnabod ymhlith y lleoedd gorau yn y DU i ddod i astudio seibr-ddiogelwch.
“Rydyn ni'n rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu'r rhaglenni gradd gorau fel bod ein myfyrwyr yn gwybod eu bod nhw'n derbyn profiad dysgu unigryw sy'n eu paratoi ar gyfer byd gwaith.
“Ni fu erioed amser mwy cyffrous a phwysig i ddechrau gyrfa mewn seibr-ddiogelwch. Ar y cyd â nifer o ganolfannau ymchwil proffil uchel a chydweithrediadau diwydiant sydd wedi'u lleoli yma ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn dod yn ddewis amlwg i ddechrau'r siwrnai honno.”
Dywedodd Dr Yulia Cherdantseva, arweinydd addysg seibr-ddiogelwch yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: “Rwy’n falch iawn o weld yr MSc seibr-ddiogelwch yn cael ardystiad gan NCSC. Mae hyn yn cyd-fynd â rhaglen eang o weithgareddau yn ein strategaeth addysg seibr-ddiogelwch, gyda'r nod o fynd i'r afael â'r prinder sylweddol o weithwyr proffesiynol seibr-ddiogelwch cymwys ledled y byd.
“Dyluniwyd MSc Seibr-ddiogelwch Prifysgol Caerdydd yn ofalus mewn cydweithrediad agos â Bwrdd Cynghori’r Diwydiant i wneud yn siŵr bod graddedigion yn ennill y sgiliau y mae pobl yn chwilio amdanynt. Mae'r rhaglen MSc hon yn gam nesaf rhagorol i unrhyw un sy'n dilyn gyrfa mewn seibr-ddiogelwch.”