Cylchlythyr Chwarter 2 2019
16 Ebrill 2019
Cofiwch bŵer araeau micro!
Diwrnod Seminar Cytometreg Llif Aml-liw BD
TissueLyser II homogeniser
A wyddoch chi fod gennym ni TissueLyser II homogeniser y gallwch ddefnyddio? Mae’r TissueLyser II yn lain hyblyg sydd wedi’i ddylunio ar gyfer tarfu’n gyflym ac effeithiol ar oddeutu 48 sampl ar yr un pryd. Caiff pob sampl ei darfu yn gydamserol a’i wneud yn unffurf gan symudiad ysgwyd cyflym gyda glain mewn tiwb wedi’i selio (melino gleiniau). Nid oes croes-halogi yn ystod tarfu ar y sampl, gan fod pob tiwb wedi’i selio yn ddiogel gyda’i gaead ei hun. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth ynghylch defnyddio offer sy’n arbed arian.
Mae ein cyfleuster qPCR wedi symed
Mae ein cyfleuster qPCR nawr wedi symud i adeilad BARRI sydd ar islawr Adeilad Henry Wellcome. Cofiwch fod gennym robot Eppendorf epMotion P5073 sy’n delio â hylif, wedi’i leoli yn ein cyfleuster qPCR, ac mae’n gallu dosbarthu yn gyflymach ac yn fwy cywir. Mae’r robot yn hwn yn system hyblyg ar gyfer awtomeiddio prosesau pibedu cymhleth sy’n gwastraffu amser, ac mae’n eich helpu i ddileu gwallau pibedu gan wneud y mwyaf o atgynyrchioldeb eich profion. Cysylltwch â ni heddiw i gael gwybod rhagor.
Diolch i’r llawer ohonoch a aeth i’n seminarau a sesiynau hyfforddi diweddar gan gynnwys cytometreg llif, meddalwedd FlowJo, Nanostring a thechnoleg MSD. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth, a chadwch lygad ar ein gwefan am fanylion rhagor o ddigwyddiadau.