Ewch i’r prif gynnwys

Tynged iaith a diwylliant Tsieina yn ysgolion Cymru: Fforwm Ysgolion Cymru Tsieina Mawrth 2021

6 Ebrill 2021

Wales China Schools Forum cover image
The Wales China Schools Forum was held on 25th March 2021

Ar 25ain Mawrth, daeth athrawon o bob cwr o'r wlad a’r tu hwnt i drafod tynged cyflwyno iaith a diwylliant Tsieina yn yr ysgol yn ôl Cwrícwlwm Newydd Cymru.

Sefydliad Conffiwsias Cymru drefnodd gyfarfod Fforwm Ysgolion Cymru Tsieina a arddelodd safbwynt ymarferol iawn. Rhoes gyfle i athrawon yng Nghymru a’r tu hwnt ddysgu rhagor am sut mae defnyddio adnoddau Mandarin yn yr ystafell ddosbarth ynglŷn â phedwar diben y Cwrícwlwm Newydd.

Y Dr Sonny Singh, Swyddog Llywodraeth Cymru dros Arwain ac Asesu’r Cwrícwlwm, ddechreuodd y cyfarfod trwy ddisgrifio’r sefyllfa ac amlinellu fframwaith y dydd yn ei araith. Wedi hynny, daeth pedwar cyflwyniad gan rai o arbenigwyr y sector i ddangos ffyrdd ymarferol o ddefnyddio Tsieinëeg yn ôl pedwar diben y cwrícwlwm newydd; “Man cychwyn a dyhead pob un o blant a phobl ifanc Cymru” - Hwb: Gwefan Llywodraeth Cymru.

Presenter Qu Fan introduces practical ideas for the classroom
A presentation on Chinese health and wellbeing provided practical ideas for the classroom

Ynghylch un o ddibenion y cwrícwlwm, sef creu dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n fodlon dysgu drwy gydol eu hoesau, soniodd Fang Xiao, arholwr ac athro Mandarin yng Ngholeg Chweched Dosbarth Caerdydd, am hybu’r iaith yn ysgolion Cymru, gan roi enghreifftiau ymarferol o'i phrofiad ei hun o addysgu.

Soniodd Wei Shao, Darlithydd Astudiaethau Tsieinëeg ym Mhrifysgol Caerdydd, am baratoi ar gyfer prifysgol yn yr ysgolion, astudio Mandarin ar lefel gradd a mynediad i fyd gwaith, gan amlinellu sut y gall dysgu Mandarin helpu dysgwyr i fod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol sy’n gallu cyflawni rolau yn eu bywydau a’u gwaith.

Trafododd Rubén Chapela-Orri, Swyddog Prosiect Llwybrau i Ieithoedd Cymru a Llysgennad Myfyrwyr Elina Griffiths (Prifysgol Bangor), fanteision amlieithrwydd ac annog plant i gydio ynddo i'w helpu i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a'r byd.

Yn olaf, fe roes dau o diwtoriaid Sefydliad Conffiwsias Caerdydd, Fan Qu a Tian Sun, gyflwyniad ar bedwerydd diben y cwrícwlwm - creu unigolion iach a hyderus sy’n fodlon bod yn aelodau gwerthfawr o'r gymdeithas gan roi syniadau ac adnoddau ymarferol ar iechyd a lles pobl Tsieina ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Cyflwynon nhw’r adnoddau trwy dudalen o’r we ynghyd â manylion gweithgareddau eraill mae Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina yn eu cynnig ar-lein. Dyma’r dudalen.

Winning poster designs from Primary School children
Winning poster competition entries from Aleesha John and Savannah Cicil Anish, both from Our Lady's Primary School in Bangor

Yn ogystal â'r cyflwyniadau, bu dau gylch trafod lle y gallai pawb gnoi cil ar faterion cyfoes a’r arferion gorau gyda’i gilydd. Rhai o diwtoriaid Sefydliad Conffiwsias Caerdydd gydlynodd y cylchoedd, gan lywio trafodaethau ar ddysgu Mandarin a chyfnewid syniadau a chynlluniau.

Achlysur olaf y cyfarfod oedd seremoni gwobrwyo enillwyr cystadleuaeth posteri Cymru-Tsieina i ysgolion cynradd, a llongyfarchwyd athrawon Sefydliad Conffiwsias am ennill Pencampwriaeth Addysgu Mandarin 2021 dros Gymru.

FFORA YSGOLION CYMRU TSIEINA

Tair cangen Sefydliad Conffiwsias Cymru (Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant) sy’n cynnal Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina. Byddan nhw’n trefnu cyfarfodydd i athrawon addysg gynradd ac uwchradd ddwywaith y flwyddyn, gan ddod ag athrawon iaith ac arbenigwyr addysgol ynghyd i hyrwyddo cyrsiau iaith a diwylliant Tsieina yn yr ysgol.

Mae cyfarfodydd Fforwm Ysgolion Cymru Tsieina yn cynnig cymorth i fudiad Ystafelloedd Dosbarth Conffiwsias a’i ysgolion cysylltiol ynghylch dysgu iaith a diwylliant Tsieina neu ddiddordeb ynddo. Mae cyfleoedd i gwrdd ag athrawon eraill a chyfnewid yr arferion gorau, hefyd.

Dyma ragor am Brosiect Ysgolion Cymru Tsieina.

Rhannu’r stori hon