Ewch i’r prif gynnwys

Dadansoddi polisïau maniffesto’r pleidiau cyn yr etholiad

1 Ebrill 2021

Senedd Building in Cardiff Bay

Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd yn cynnal digwyddiad ar lein a’n cyhoeddi cyfres o adroddiadau yn bwrw golwg ar oblygiadau cyllidol ymrwymiadau maniffesto a’r rhagolwg cyllidol i Gymru.

Cyn etholiad y Senedd, bydd tîm Dadansoddi Cyllid Cymru yn cyflwyno eu dadansoddiad o’r rhagolygon cyllidol ar gyfer tymor nesaf y Senedd ac yn dadansoddi goblygiadau cyllidol rhai o brif ymrwymiadau maniffesto. Bydd David Phillips, Cyfarwyddwr Cysylltiol y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, hefyd yn cyflwyno dadansoddiad o opsiynau a pholisïau ar gyfer trethi eiddo yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad ar 27ain o Ebrill 2021 yn cynnwys:

  • Y rhagolwg cyllidol am y pum mlynedd nesaf yng nghyd-destun cynlluniau gwario Llywodraeth y DG.
  • Pwysau cyllido ar wasanaethau cyhoeddus dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys effeithiau Covid-19.
  • Dadansoddiad o oblygiadau cyllidol prif ymrwymiadau maniffesto'r pleidiau.
  • Treth eiddo: opsiynau a chynigion ar gyfer y Senedd nesaf.

Bydd Dadansoddi Cyllid Cymru hefyd yn cyhoeddi cyfres o adroddiadau briffio yn y cyfnod cyn yr etholiad, y cwmpasu’r rhagolygon ar gyfer cyllideb Cymru a’r dewisiadau sy’n wynebu’r llywodraeth nesaf, cost adferiad o Covid-19 ar y GIG, a’r pwysau cyllido sy’n wynebu awdurdodau lleol yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cyhoeddi sylwebaeth ar oblygiadau cyllidol ac economaidd ymrwymiadau'r pleidiau yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Gellir cofrestri ar gyfer y digwyddiad yma, gyda chroeso mawr i bawb.

Rhannu’r stori hon