Camp lawn i diwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd ym Mhencampwriaeth Addysgu Cymru
30 Mawrth 2021
Trefnwyd Pencampwriaeth Addysgu Mandarin y DU yng Nghymru gan y Ganolfan Addysg Iaith a Chydweithrediad (CLEC - Hanban gynt) a hon oedd y gystadleuaeth gyntaf o'i math i gael ei chynnal yn y wlad.
Cystadlodd 16 o athrawon o dri Sefydliad Confucius Cymru ym mhrifysgolion y Drindod Dewi Sant, Caerdydd a Bangor, ynghyd â sawl gwirfoddolwr tramor. Gofynnwyd i'r cyfranogwyr ddewis ac addysgu ddosbarth iaith neu ddiwylliant 15 munud o hyd, wedi'i ffrydio, yna gofynnwyd un cwestiwn Saesneg ac un cwestiwn Mandarin iddynt gan banel o feirniaid. Roedd y panel yn cynnwys gweithwyr iaith proffesiynol o sefydliadau addysgol sy'n dysgu Tsieinëeg ledled y DU.
Cyflwynodd athrawon Sefydliad Confucius Caerdydd wersi diddorol, hwyliog a dychmygus ar bynciau yn cynnwys lliwiau, penblwyddi, amser y dyfodol a pheintio Tsieineaidd. Roedd y gystadleuaeth yn chwyrn gydag allbwn creadigol o'r fath ond ar ôl llawer o drafod cyhoeddwyd yr enillwyr, gyda Ling He a Linyan Tian o Sefydliad Confucius Caerdydd yn dod yn gyntaf ac yn ail.
Roedd dosbarthiadau Ling a Linyan wedi'u hanelu at ddechreuwyr, a’u pynciau oedd rhannau o'r corff a dweud yr amser, yn y drefn honno. Dywedodd enillydd y wobr gyntaf, Ling, sy'n dysgu plant cynradd yn bennaf: “Fe wnes i ddylunio llawer o gemau dosbarth diddorol i'w helpu i ymarfer a chryfhau’r cof o ran yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu. Ar ben hynny, rwy'n dda am ddefnyddio iaith y corff a gwneud cymhorthion addysgu i wneud fy ngwersi yn fwy apelgar."
Dywedodd Linyan, a ddaeth yn ail: “Roedd y cyflwyniad 15 munud i mi fel pob gwers rydw i’n ei gwneud - yr allwedd yw cynnwys pawb, gan fy mod i bob amser yn glynu wrth ddihareb wrth addysgu: 'Dyweda wrthyf ac fe anghofiaf; dangosa i fi ac efallai y cofiaf; cynhwysa fi ac fe ddeallaf'."
Gan siarad am y digwyddiad, dywedodd y Beirniad Fang Xiao, athro Mandarin yng Ngholeg Chweched Dosbarth Caerdydd ac Arholwr TGAU, IGCSE a Safon Uwch: "Gwnaeth pawb a gymerodd ran yn dda iawn yn y gystadleuaeth. Gallwn weld deunyddiau addysgu rhagorol a strategaethau addysgu amrywiol gyda safbwyntiau arloesol a chynhwysol, a bydd yn helpu i hyrwyddo safon uchel o addysgu a dysgu Mandarin yng Nghymru yn y dyfodol".
Bydd Ling a Linyan nawr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU - nid yw'r union ddyddiad wedi'i gyhoeddi eto.
I ddarllen erthygl Tsieinëeg ar y gystadleuaeth, ewch i’r dudalen hon.