Ewch i’r prif gynnwys

Mae athro o Brifysgol Caerdydd wedi’i anrhydeddu yng ngwobrau Cymdeithas Biocemegol

30 Mawrth 2021

Mae athro o Brifysgol Caerdydd y mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddod o hyd i fathau newydd o lipidau a deall eu heffaith ar ein hiechyd, wedi cael ei gydnabod am ragoriaeth ym maes y biowyddorau.

Mae'r Athro Valerie O'Donnell ymhlith 11 o fio-wyddonwyr blaenllaw ac ymchwilwyr gyrfa gynnar i gael eu hanrhydeddu yng Ngwobrau blynyddol y Gymdeithas Biocemegol.

Mae hi'n arbenigwr mewn biocemeg, y mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddadansoddi lipidau llidiol a gynhyrchir gan gelloedd gwaed.

Gan ddefnyddio dulliau sbectrometreg màs a ddatblygwyd yn ei labordy, datgelodd ei thîm deuluoedd o lipidau unigryw, a dangosodd fod llawer yn hanfodol ar gyfer tolchennu gwaed a llid fasgwlaidd.

Gyda'i chydweithwyr, gwelodd yn ddiweddar fod y lipidau hyn yn gyrru datblygiad anewrysm aortig abdomenol (AAA) trwy eu rhyngweithio â ffactorau tolchennu ac yn dangos eu rôl hanfodol mewn thrombosis gwythiennol.

Mae ei hymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar ddeall sut mae ffosffolipidau yn gyrru llid a tholchennu gwaed yn AAA a COVID-19.

“Gwnaethpwyd y wobr hon yn bosibl gan ein gwaith fel tîm, ddoe a heddiw, yn y labordy ymchwil, yr ochr glinigol, ac o fewn grŵp LIPID MAPS. Mae’n anrhydedd imi weithio gyda chymaint o gydweithwyr gwych,” meddai’r Athro O’Donnell, a fydd yn derbyn Gwobr Darlith Morton 2022.

Mae'r Athro O'Donnell yn cyd-arwain ELIXIR UK Bioresource LIPID MAPS, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome. Mae'r consortiwm rhyngwladol hwn gyda Sefydliad Babraham, Caergrawnt, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol California San Diego, yn cefnogi maes lipidomeg ledled y byd.

Mae hi'n arweinydd Grŵp Anrhydeddus yn Sefydliad Babraham, arweinydd Grŵp Cysylltiedig yn Sefydliad Ymchwil Dementia y DU yng Nghaerdydd, Cymrawd i Academi Gwyddorau’r Meddygol ac Aelod o Academia Europaea.

Dywedodd yr Athro Colin Bingle, Cadeirydd Pwyllgor Gwobrau'r Gymdeithas Biocemegol: “Rydyn ni’n byw mewn amseroedd rhyfeddol ac mae pandemig COVID-19 wedi helpu i daflu goleuni ar werth ymchwil a chydweithio o ansawdd uchel yn y gwyddorau bywyd.”

Rhannu’r stori hon