Mae adroddiad Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn tynnu sylw at lefel uchel o symptomau iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru
29 Mawrth 2021
Nododd un ym mhob pum person ifanc yng Nghymru lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl cyn pandemig COVID-19.
Cyhoeddwyd canfyddiadau Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion y mis hwn. Roedd yr arolwg yn mesur iechyd a lles o ddeutu 120,000 o bobl ifanc ym mlynyddoedd 7 i 11 a datgelodd y data ganfyddiadau ar iechyd a lles pobl ifanc yn 2019/20, cyn y pandemig.
Ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, gan gynnwys yr Athrawon Simon Murphy a Graham Moore o DECIPHer a Chanolfan Wolfson, oedd yn gyfrifol am yr adroddiad.
Dywedodd yr Athro Graham Moore, "Mae gwybodaeth ar iechyd a lles yn bwysicach nag erioed. Mae darparu data i ysgolion a rhanddeiliaid eraill yn galluogi asesiad parhaus o iechyd pobl ifanc yng Nghymru i fwydo i mewn i gynllunio gweithredu ar gyfer gwella iechyd pobl ifanc, ynghyd â chyfleoedd i gymharu tueddiadau byd-eang mewn iechyd a lles y glasoed."
"Adroddodd cyfran sylweddol o bobl ifanc lefel uchel iawn o symptomau ar ddechrau eu gyrfa ysgol uwchradd, er i hyn gynyddu ymhellach gydag oedran. Mae hyn yn dangos bod angen cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc yn well trwy'r ysgol uwchradd, ond hefyd cyn iddyn nhw gyrraedd y cam hwn yn eu bywyd."
Canfu'r adroddiad hefyd fod merched yn fwy tebygol na bechgyn o roi gwybod am symptomau iechyd meddwl cryfach, gyda gwahaniaeth sylweddol rhwng y rhywiau yn amlwg erbyn blwyddyn 10.
Unigolion o deuluoedd llai cefnog oedd y mwyaf tebygol o sôn am symptomau cryfach, yn ogystal â'r rheini nad oedd yn ystyried eu hunain yn fachgen nac yn ferch.
Ychwanegodd yr Athro Simon Murphy, “Mae pobl ifanc yn parhau i wynebu llawer o heriau iechyd ac mae canfyddiadau rhyngwladol diweddar yn nodi bod problemau'n parhau ar draws amrywiol ffactorau demograffig a chymdeithasol gan gynnwys ymddygiadau iechyd, fel diet a gweithgaredd corfforol yn ogystal ag ymddygiadau eraill fel defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol sydd yn cyflwyno heriau newydd.”
"Mae effaith y pandemig hefyd yn golygu bod pobl ifanc ar hyn o bryd yn wynebu newidiadau tymor hir na welwyd eu tebyg o ran iechyd, lles ac addysg. Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn gosod sylfaen ar gyfer monitro effeithiau argyfwng COVID-19, a'r strategaethau adfer, ar iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru yn y tymor byr a'r tymor hirach."
“Rydym ni'n rhagweld cylch arall o gasglu data eleni ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda thimau ar draws DECIPHer a Chanolfan Wolfson i gynnal ymchwil hanfodol i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. Bydd deall canfyddiadau asesiadau fel hyn yn hanfodol bwysig mewn blynyddoedd i ddod.”
Mae Adroddiad Cenedlaethol Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion Cymru sy'n cynnwys Iechyd/Lles Myfyrwyr yng Nghymru 2019/20 ar gael ar-lein ac fe'i cynhyrchwyd mewn partneriaeth rhwng DECIPHer, WISERD, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Canser y DU.
Caiff ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr adrannau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru a gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.